Mae Heddlu Gogledd Cymru yn rhybuddio pobol ifanc am beryglon dringo ar doeau yng nghanol tref Caernarfon.
Tra bod yr heddlu yn ceisio cael gwared ar ymddygiad gwrth-gymdeithasol, maen nhw hefyd yn ofni y gallai pobol ifanc gael eu hanafu – neu’n waeth byth, eu lladd – trwy syrthio o uchder mawr.
“Yr wythnos diwethaf bu nifer o ddigwyddiadau lle bu mân ddifrod wrth i lanciau ifanc ddringo ar doeau adeiladau yng nghanol y dref,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru.
‘Yn amlwg, maen nhw’n troseddu, ond yn fwy pwysig maen nhw’n rhoi eu hunain mewn sefyllfaoedd peryglus iawn a gallai’r canlyniadau fod yn ddifrifol iawn.
“Rydan ni’n gofyn i rieni’r bobol ifanc hyn sy’n ymgynnull yng nghanol y dref i siarad â nhw am beryglon dringo toeau a gofyn iddyn nhw ystyried yr hyn maen nhw’n ei wneud.”