Mi fydd £3.5m ar gael i awdurdodau lleol er mwyn gwella safonau gwasanaethau bysiau, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Fe fydd Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, darparwyr a defnyddwyr gwasanaethau bysiau yng Nghymru mewn uwchgynhadledd yn Abertawe heddiw (dydd Iau, Mai 3) er mwyn trafod sut y gall y diwydiant ddatblygu.

Dyma’r eildro i Uwchgynhadledd Bysiau Cymru gael ei gynnal, ac ynddo fe fydd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Ken Skates, yn cyhoeddi hwb ariannol gwerth £3.5m i’r diwydiant.

“Darparu rhwydwaith effeithiol”

Wrth siarad ar drothwy’r gynhadledd, mae Ken Skates yn dweud ei fod yn cyhoeddi’r hwb ariannol newydd hwn er mwyn “sicrhau canlyniadau go iawn” i deithwyr.

“Bydd yn golygu y bydd modd mynd ati’n gynt i roi cyfarpar clywededol ar waith ar fysiau, gan gynnwys technoleg ar y bysiau eu hunain a fyd dyn cyhoeddi’r ‘stop nesaf’,” meddai.

“Bydd yn golygu hefyd y bydd modd gwella seilwaith cysylltiedig megis safleoedd bysiau, cysgodfannau, arwyddion a baneri, amserlenni amlwg a chyrbiau hygyrch.”