Roedd cryn dipyn o wrthwynebiad neithiwr i sefydlu Swyddog Cymraeg Llawn Amser yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe – a’r Gymdeithas Gymraeg yn dweud wrth golwg360 ei bod yn “teimlo weithiau fel pe bai’r Undeb yn wrth-Gymraeg”.
Cafodd cynnig ei gyflwyno gan Swyddog Iaith Gymraeg yr Undeb, Tomos Watson i geisio sicrhau bod gan fyfyrwyr Cymraeg Abertawe yr un lefel o gynrychiolaeth â’r prifysgolion hynny yng Nghymru sydd â swyddog llawn amser yn gyfrifol am y Gymraeg.
Dywed y cynnig fod y gymuned o Gymry Cymraeg “wedi’i hynysu” oddi wrth y corff myfyrwyr; nad yw llais y Cymry Cymraeg yn cael ei glywed yn yr Undeb; bod nifer fach iawn o ddigwyddiadau’r Undeb yn y Gymraeg a bod diffyg swyddog yn golygu nad yw’r Gymraeg a’r diwylliant yn cael eu gwerthu’n ddigonol.
Mae’r cynnig hefyd yn nodi nad yw’n deg disgwyl i swyddog rhan-amser fod â’r holl gyfrifoldeb dros y Gymraeg, ac na ddylai Cymry Cymraeg dderbyn llai o ddarpariaeth a chynrychiolaeth na myfyrwyr eraill yn yr Undeb a’r Brifysgol.
Wrth amlinellu’r ymgyrch arfaethedig, dywed y cynnig y byddai refferendwm yn cael ei gynnal yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf “i gasglu barn myfyrwyr”, ac y byddai’r naill ochr a’r llall yn derbyn £100 yr un i redeg yr ymgyrch.
Dyw canlyniad y bleidlais ddim yn hysbys eto, ond roedd cryn wrthwynebiad i’r cynnig yn ystod y cyfarfod.
“Sioc” myfyrwyr i’r gwrthwynebiad
Wrth siarad â golwg360, dywed cynrychiolwyr o Gymdeithas Gymraeg Prifysgol Abertawe eu bod wedi “cael sioc” o weld cymaint o wrthwynebiad oedd i’r cynnig.
“Roedd pobol yn trio dweud y byddai’n costio gormod i’r Undeb, pam nad yw’r Gym-Gym yn cymryd rôl yn gwneud hyn? Rhywbeth cymdeithasol yw’r Gym-Gym, ’dyn ni ddim yma i ddelio â phethau fel hyn – materion academaidd, ac yn y blaen.”
Ond yn ôl y Gym-Gym, gall fod diffyg dealltwriaeth o faterion Cymraeg a Chymreig wedi arwain at y gwrthwynebiad – yn enwedig ymhlith pobol ddi-Gymraeg.
“Dydyn ni ddim yn credu bod pobol ddi-Gymraeg yn sylweddoli faint o broblemau sy’n codi a bod eisiau rhywun llawn amser i wirfoddoli gyda’r Undeb i ddelio gyda’r rhain.”
“Teimlo fel bo ni yn Lloegr”
Yn ôl y Gym-Gym, maen nhw’n teimlo weithiau “fel bo ni yn Lloegr” o weld cyn lleied o bwys sy’n cael ei roi ar y Gymraeg.
“Does dim ymdeimlad Cymreigaidd o gwbl. Roedd yr Undeb yn teimlo’n Seisnigaidd ar adeg y Chwe Gwlad. Roedd diffyg baneri Cymru yn amlwg yn JC’s, bar yr Undeb, ond roedd baneri Lloegr ymhlith y rhai mwyaf plaen yn yr Undeb a lot mwy ohonyn nhw.
“Mae’r Saesneg yn cael y flaenoriaeth.”
Dywedon nhw fod llawer iawn o gamgymeriadau ar ddeunydd Cymraeg yn yr Undeb, a bod yr Undeb ar fai am gredu na fyddai unrhyw un yn sylwi.
“Ni mewn prifysgol yng Nghymru. Ni’n mynd i sylwi. Maen nhw’n ddiog wrth beidio â gwneud y pethau yma’n iawn. Mae hanner y cyfieithiadau’n mynd trwy Google Translate.”
…ond mwy o ymwybyddiaeth ymhlith Cymry Cymraeg
Er y diffyg dealltwriaeth, mae’r Gym-Gym yn teimlo bod mwy o ymwybyddiaeth bellach ymhlith Cymry Cymraeg fod ganddyn nhw hawl i gael eu cynrychioli.
“O ran hawliau newydd o safbwynt Comisiynydd y Gymraeg, mae pobol yn fwy parod i sefyll lan dros y Gymraeg, gan fod gan fyfyrwyr Cymraeg yr hawl i gael cymaint o bethau yn Gymraeg nawr. Mae’r galw yma yn Abertawe.”
Swyddog i gynrychioli Cymry Cymraeg yn bennaf fyddai’r swyddog llawn amser arfaethedig – sydd yn codi cwestiynau, yn ôl y Gym-Gym am ddilysrwydd gwrthwynebiad pobol ddi-Gymraeg.
“Fyddai’r swyddog yma ddim yn effeithio ar bobol ddi-Gymraeg mewn unrhyw ffordd, felly ’dyn ni ddim yn deall eu gwrthwynebiad.
“Dydyn ni ddim hyd yn oed yn gofyn am swyddog, ry’n ni’n gofyn am refferendwm i gael barn pawb. Dydyn nhw ddim moyn i ni gael hynny. Mae’n hurt.
“Mae pobol yn aml yn anghofio bo ni yng Nghymru, bo ni’n astudio yn Gymraeg a bod angen rhywun arnon ni sy’n gallu delio gyda’n problemau ni’n ymwneud â’n haddysg ni.
“Ni’n talu’r un faint â phobol eraill ond yn dewis astudio drwy’r Gymraeg. Dylen ni gael rhywun i ddelio gydag unrhyw broblemau sydd gyda ni.
“Mae pobol llawer iawn mwy parod i bwyntio bys a rhoi’r Gymraeg i lawr nag y bydden nhw i grwpiau lleiafrifol eraill ac i wrthwynebu eu hawliau.”
Agwedd yr undeb yn “warthus”
Yn ôl y Gym-Gym, mae agwedd Undeb y Myfyrwyr yn Abertawe at y Gymraeg “yn warthus”.
“Y Saesneg sydd o hyd yn dod yn gyntaf. Mae’r Gymraeg yn israddol ac yn afterthought ym mhob peth maen nhw’n ei wneud – posteri, gweithgareddau neu hysbysiadau. Mae’r Gymraeg naill ai yna ond ddim yn gwneud lot o synnwyr ac mae’n rhaid i chi ddarllen y Saesneg beth bynnag, neu mae’n lot llai o faint.
“Mae’n rhaid i’r Undeb roi cyfieithiadau – ni’n teimlo bod y Gymraeg yna dim ond oherwydd fod rhaid iddyn nhw wneud.”
Ychwanegon nhw ei bod yn “teimlo weithiau fel pe bai’r Undeb yn wrth-Gymraeg”.
“Mae unigolion yn bendant o fewn yr Undeb lle y’ch chi’n cael y teimlad eu bod nhw’n wrth-Gymraeg. Pan y’n ni’n cerdded i mewn i’r bar, y’n ni’n gweld pobol yn rholio’u llygaid, maen nhw’n ein hadnabod ni nawr achos y’n ni’n cyfrannu lot i fywyd yr Undeb.
“Dyw’r Gymdeithas Gymraeg ddim yn cael yr un chwarae teg â’r cymdeithasau eraill yn ei gael. Mae’n teimlo fel pe bai rhai cymdeithasau eraill yn cael y flaenoriaeth droson ni pan bo nhw’n dweud bo ni ddim yn gymdeithas ddigon mawr.
“Ond mae’r galw a’r gefnogaeth yna i’n cefnogi ni.”
Ymateb yr Undeb
Wrth ymateb, dywedodd Cynorthwy-ydd Marchnata Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe, Megan Chick wrth golwg360: “Yn ôl polisi’r Undeb, dydyn ni ddim jyst yn gallu cynnal swyddog llawn amser newydd, mae’n rhaid iddo fynd drwy refferendwm myfyrwyr. Nid yr Undeb sy’n penderfynu.
“Nid ein bai ni yw e, nid ein barn ni yw e. Does dim hawl gyda ni i gael barn am y cynnig, ond rydyn ni’n cefnogi’r Gymraeg.
“Mae’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn gyfle i fyfyrwyr roi cynigion ymlaen i newid polisïau’r Undeb. Ar hyn o bryd, mae Swyddog Materion Cymraeg rhan-amser yn gweithio ar y Pwyllgor Gwaith (Exec).
“’Dydyn ni ddim wedi cael y canlyniadau eto, maen nhw’n dal i gael eu cyfri. Does gan yr Undeb ddim barn, dydyn ni ond yn cynnig y cyfle iddyn nhw drafod a lleisio’u barn.
“Roedd cyfle i gael dadl ac yna i gael pleidlais. Dadl i gael refferendwm oedd hi, ac nid i gael swyddog. Yn gyffredinol, roedd y Cymry Cymraeg o blaid, a’r di-Gymraeg yn erbyn.”
Ond mae’n wfftio’r awgrym fod “rhwyg” rhwng Cymry Cymraeg a di-Gymraeg yn y Brifysgol.