Gallai tîm pêl-droed Cymru ddychwelyd i chwarae i Stadiwm Principality fis Hydref – am y tro cyntaf ers saith mlynedd.

Mae disgwyl i dîm Ryan Giggs herio Sbaen mewn gêm gyfeillgar – a hynny am y tro cyntaf ers 33 o flynyddoedd – ond does dim cadarnhad o’r lleoliad ar hyn o bryd. Y tro cyntaf iddyn nhw herio’i gilydd – ar y Cae Ras yn 1985 – Cymru oedd yn fuddugol o 3-0 mewn gêm ragbrofol ar gyfer Cwpan y Byd.

Ond mae lle i gredu bod trafodaethau ar y gweill rhwng Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac Undeb Rygbi Cymru.

Dadlau

Dydy Cymry ddim wedi chwarae yno ers iddyn nhw herio Lloegr mewn gêm ragbrofol ar gyfer Ewro 2012 ym mis Mawrth 2011, gan ddewis Stadiwm Dinas Caerdydd yn stadiwm gartref.Mae cefnogwyr wedi ffafrio’r stadiwm lai ac mae dadlau wedi bod ar y cyfryngau cymdeithasol ers iddi ddod i’r amlwg fod y Principality’n cael ei hystyried eto.

Pe bai’r gêm yn cael ei chynnal yn Stadiwm Principality, y gobaith yw denu torf o fwy na 60,000 ar gyfer y gêm fydd yn serennu rhai o chwaraewyr gorau’r byd. Serch hynny, ar nos Iau y bydd y gêm yn cael ei chynnal.

Ar hyn o bryd, mae disgwyl i’r gemau yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon a Denmarc yng Nghynghrair y Cenhedloedd aros yn Stadiwm Dinas Caerdydd.