Mae Wrecsam wedi penodi cyn-chwaraewyr Cymru, Sam Ricketts, fel ei rheolwr newydd.

Roedd wedi gorfod ymddeol o chwarae yn 2016 oherwydd anaf i’w ben-glin, ar ol cyfnodau’n chwarae i Abertawe, Hull, Bolton ,Wolves a Coventry.

Fe gynrychiolodd ei wlad 52 o weithiau, cyn cwblhau ei drwydded hyfforddi drwy Gymdeithas Bêl-droed Cymru.

Mae’n sicr o fod yn gwybod am yr her sydd o’i flaen o geisio cael Wrecsam yn ôl i’r Gynghrair Bêl-droed.

Angen amser

“Mae Wrecsam wedi cael saith rheolwr mewn deng mlynedd, rhai gyda phrofiad rai ddim,” meddai cyn-chwaraewr Wrecsam, Waynne Phillips, wrth golwg360.

“Mae’n amser  i’r clwb edrych ar eu hunain yn lle newid rheolwr mor aml. Mae Sam Ricketts angen cyfnod hir yn y swydd, o leiaf tair blynedd i greu stamp ei hun ar y swydd a cheisio dod a chwaraewr ifanc drwodd i’r tîm cyntaf.

“Mae’r tîm y tymor hwn wedi bod yn onest, ond ar ddiwedd y dydd, dim yn ddigon da, ac mi oedd hi’n bechod i weld chwaraewr ifanc addawol fel Leo Smith ddim yn cael cyfle.

“Pan o’n i’n chwarae i Wrecsam, roedd cymysgedd o dalent lleol ifanc a phrofiad yn y tim… rŵan, mae pawb eisio llwyddiant ddoe, dydi rheolwyr ddim yn cael cyfle i fagu talent ifanc.”