Mae staff diogelwch yn ysbytai Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan ymhlith y diweddaraf ledled Cymru sydd wedi cychwyn gwisgo camerâu er mwyn ceisio atal ymddygiad treisgar.

Yn ôl y ffigyrau, mae 15,113 achos o ymddygiad treisgar wedi’u cofnodi o fewn y bwrdd iechyd yn y pum mlynedd ddiwethaf, ac fe fydd y camerâu yn helpu staff i gofnodi digwyddiadau treisgar yn erbyn staff yn ogystal a gweithredoedd staff eu hunain ac eraill.

Fe fydd staff Ysbyty Brenhinol Gwent ac Ysbyty Nevill Hall yn gwisgo’r camerâu o hyn ymlaen.

Fe gafodd y camerâu eu cyflwyno gyntaf yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd yn 2013, ac erbyn hyn maen nhw’n cael eu gwisgo gan bob aelod o staff ym Mwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro.

Mae byrddau iechyd Aneurin Bevan, Cwm Taf, Betsi Cadwaladr ac Abertawe Bro Morgannwg hefyd wedi cymryd y cam erbyn hyn, ond dyw staff Bwrdd Iechyd Hywel Dda ddim yn gwisgo camerâu.

Yn ôl Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, mae’r camerâu o’r un maint â ffôn clyfar, ac fe fydd rhaid i staff diogelwch roi rhybudd cyn cychwyn recordio lle bo hynny’n ymarferol.