Mae grwpiau sydd am ddarparu cymorth yng Nghymru ac Affrica, wedi’u gwahodd i geisio am arian o gronfa werth £230,000.
Bydd cronfa ‘Cymru o blaid Affrica’ yn cael ei lansio fis nesa’ ac mi fydd yn cynnig grantiau hyd at £15,000.
Mae’r cynllun yn cael ei ddarparu ar y cyd rhwng Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) a Llywodraeth Cymru, a Mehefin 29 yw’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau.
“Trawsnewid bywydau”
“Mae grantiau bach o’n rhaglen Cymru o Blaid Affrica wedi trawsnewid bywydau miloedd o bobl yn Affrica ac wedi bod o fudd i bobl yma hefyd,” meddai’r Prif Weinidog Carwyn Jones.
“Hoffwn annog grwpiau a sefydliadau cymunedol i wneud cais am gyfran o’r cyllid hwn a gweithio gyda ni er mwyn inni allu parhau i wella bywydau pobl yn Affrica.”