Mae trefniadau ar y gweill yng Ngheredigion i ddathlu union ddau gan mlynedd ers i chwe theulu o Ddyffryn Aeron ymfudo i’r Unol Daleithiau.
Ar Ebrill 1, 1818, fe ymfudodd fintai o 36 o bobol o dan arweiniad y tafarnwr John Jones, Tirbach o Gilcennin i’r Unol Daleithiau, lle gwnaethon nhw sefydlu cymuned Gymraeg yn ne-ddwyrain talaith Ohio o gwmpas siroedd Jackson a Gallia.
Yn sgil yr ymfudo cyntaf hwn, fe fentrodd tua 3,000 o bobol o ganol Ceredigion dros Fôr Iwerydd rhwng 1835 a 1855 er mwyn chwilio am fywyd gwell, ac yn benodol i’r rhan o Ohio a gafodd ei lysenwi’n ‘Little Cardiganshire’.
Ac yn ôl Arwel Jones, un o ysgrifenyddion y pwyllgor dathlu, mae’r stori hon yn “werth ei dathlu”, oherwydd bod y cysylltiad rhwng y dalaith a Cheredigion “yn parhau”.
“Y rheswm mwyaf ry’n ni wedi’i wneud e yw oherwydd bod shwd gwmynt wedi mynd o’r ardal ’ma i’r un ardal [yn yr Unol Daleithiau],” meddai wrth golwg360.
“Dyna beth sy’n gwneud y stori ’ma’n unigryw yw’r rhif sydd wedi mynd allan, a bod nhw wedi mynd a setlo mewn un ardal yn ne-ddwyrain Ohio.”
Dathlu cysylltiad
Mewn cyfarfod cyhoeddus yng Nghilcennin neithiwr (nos Fercher, Ebrill 25), fe gyhoeddodd pwyllgor Cymru-Ohio 2018 sut fydd y cysylltiad rhwng y ddwy ardal yn cael ei ddathlu ddiwedd mis Mehefin eleni.
Mae’r digwyddiadau’n cynnwys:
- cymanfa ganu awyr agored ar y Mynydd Bach;
- perfformiad o ddrama ar y cei yn Aberaeron
- nosweithiau cymdeithasol mewn tafarnau lleol;
- cyngerdd dathlu ar y dydd Sadwrn olaf.
Fe fydd hefyd gyfle i groesawu disgynyddion yr ymfudwyr i Gymru, ac mae Arwel Jones yn dweud bod “nifer” wedi dangos diddordeb yn barod.
“Mae yna lot o frwdfrydedd [yn Ohio],” meddai. “Mae tua hanner cant [o bobol] wedi bwcio’n barod i sefyll yn lleol, a hynny rownd ardal Aberaeron yn bennaf.
“Mae lot o drefniadau gyda ni ar eu rhan nhw. Maen nhw’n barod wedi dweud eu bod nhw eisiau mynd i weld cartrefi ei hen gyndeidiau… ac fe fyddwn ni’n trefnu bysus i fynd â nhw lle roedd eu cyndeidiau wedi dachre mas o Geredigion, ac o le y gwnaethon nhw ymfudo.”
Dyma Arwel Jones yn esbonio ymhellach hanes yr ymfudo cyntaf o ardal Cilcennin yn 1818…
Mi fydd yr wythnos o ddathliadau rhwng Mehefin 22 a 30.