Ni fydd yna’r un band Cymraeg yn perfformio ar brif lwyfan gŵyl gerddoriaeth BBC Music yn Abertawe ddiwedd mis Mai eleni.
Bydd ‘The Biggest Weekend’ yn cael ei gynnal ar draws nifer o leoliadau yng ngwledydd Prydain rhwng Mai 25-28.
Ymhlith y rhai fydd yn perfformio ar y prif lwyfan y mae Ed Sheeran, Taylor Swift, Sam Smith, Craig David, Jess Glynne, Rita Ora a George Ezra.
Mae’r digwyddiad yn bartneriaeth rhwng BBC Music a Chyngor Abertawe, ac mae gan y Cyngor bolisi pum mlynedd er mwyn hybu’r iaith Gymraeg yn unol â Safonau’r Gymraeg y Comisiynydd.
Wrth gyfeirio at waith y Cyngor, dywed y Safonau: “Os byddwch yn trefnu digwyddiad cyhoeddus, neu’n ariannu o leiaf 50% o ddigwyddiad cyhoddus, rhaid i chi sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg wrth hybu’r digwyddiad (er enghraifft, o ran y ffordd y mae’r digwyddiad yn cael ei hysbysebu neu y rhoddir cyhoeddusrwydd i’r digwyddiad).”
Ond mae golwg360 yn deall nad partneriaeth ariannol mo hwn, ac nad oes gan y Cyngor ran o gwbwl wrth ddewis y bandiau ar gyfer y digwyddiad. Trefniadau logistaidd yn unig y byddan nhw’n gyfrifol amdanyn nhw.
Ymateb
Wrth ymateb i bryderon am ddiffyg bandiau Cymraeg ar y prif lwyfan, dywedodd llefarydd ar ran BBC Music: “Cafwyd cyhoeddiad yn gynharach yr wythnos hon y bydd nifer o fandiau Cymraeg yn chwarae ar lwyfan BBC Music Introducing yn The Biggest Weekend fis nesaf, gan gynnwys Band Pres Llareggub, Mellt, Chroma a Serol Serol.
“Bydd cyhoeddiad pellach yn fuan iawn ynghylch holl weithgarwch BBC Cymru yn y digwyddiad.”