Bydd cantores glasurol o Gymru ymhlith y rhai fydd yn perfformio ym mhriodas Tywysog Harry a Meghan Markle fis nesaf.
Fe fydd Elin Manahan Thomas, ymghyd ag aelodau Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC hefyd ymhlith y gerddorfa fydd yn perfformio gyda’r gantores o Abertawe. Hefyd yn rhan o’r gerddorfa fydd aelodau Cerddorfa Siambr Lloegr a’r Philharmonia o dan arweiniad Christopher Warren-Green.
Bydd mab ieuengaf Tywysog Charles a’r actores Americanaidd yn priodi yng Nghapel San Siôr yn Windsor ddydd Sadwrn, Mai 19.
Mewn neges ar ei thudalen Facebook, dywed yn Saesneg: “Mae Elin Manahan Thomas wrth ei bodd o gael cadarnhau y bydd hi’n perfformio ym mhriodas Tywysog Harry a Meghan Markle yng Nghapel San Siôr ar ddydd Sadwrn 19 Mai.”
https://www.facebook.com/ElinManahanThomas/photos/a.119961151423031.31301.119529151466231/1750718185013978/?type=3
Ychwanegodd ar ei thudalen Twitter: “Rwy wrth fy modd o fod wedi cael gwahoddiad i ganu ar achlysur mor fawreddog. Mae bob amser yn fraint cael gwahoddiad i fod yn rhan o briodas, ac mae cael rhannu diwrnod mawr cwpl yn arbennig iawn. Pob lwc i bawb gyda’r paratoadau!”
https://twitter.com/elin_manahan/status/988781380061581312
Hefyd yn perfformio yn y briodas fydd Sheku Kanneh-Mason (soddgrwth), David Blackadder (trwmped), Karen Gibson a chôr Kingdom, a Chôr Capel San Siôr.
https://twitter.com/KensingtonRoyal/status/988765256058134528