Fe fydd cyfres gomedi newydd Elis James i S4C yn rhoi cyfle iddo edrych ar yr hen ffordd Gymreig o fyw, gan gwestiynu sut mae bywyd y Cymry wedi newid ar hyd y blynyddoedd.
Wrth wylio fideos YouTube a dechrau meddwl am yr hen ffordd Edward H-aidd o fyw y dechreuodd gwestiynu sut mae bywydau’r Cymry wedi newid dros y degawdau.
Dyma fydd testun ei gyfres gomedi newydd i S4C, Cic Lan yr Archif, sy’n dechrau heno (nos Fercher, Ebrill 25).
“Oedd e mor ddoniol,” meddai wrth golwg360, “achos oedd e’n fywyd sydd wedi newid neu wedi mynd, y math o Gymreictod sy’n diflannu wir. Ond hefyd oedd e’n canu cloch achos bo fi wedi cael magwraeth yng Nghymru.
“O’n i’n meddwl bod rhyw raglen yn hwn achos o’n i’n moyn cymysgu’r hiwmor gyda’r hanes. Oedd e’n fraint cael mynd trwy’r stwff hyn i gyd.”
Cyflwynwyr adnabyddus – “ni bach fel Awstralia”
O Arfon Haines Davies i Hywel Gwynfryn, mae llu o gyflwynwyr S4C dros y degawdau’n cael triniaeth Cic Lan yr Archif gan y digrifwr o Gaerfyrddin, wrth iddo ddadorchuddio rhai o’r clasuron – a rhai clipiau sydd wedi mynd yn angof.
“Wnes i rili fwynhau gweld faint o raglenni oedd lle oedd Arfon Haines Davies yn troi lan ynddyn nhw. Fi’n cofio fe fel continuity announcer HTV ddiwedd yr ’80au. O’n i ddim yn gwybod mai Arfon Haines Davies oedd y person oedd S4C wedi defnyddio yn eu rhaglenni technoleg nhw reit ar ddechrau’r ’80au.
“Ni bach fel Awstralia fi’n credu, ni’n gweld yr un wynebau.”
Wrth drafod ei ‘arwr’, Hywel Gwynfryn, ychwanegodd, “Fi’n meddwl bod e’n bach o drysor cenedlaethol. Mae’n gweithio ar lefel hollol wahanol i bawb arall. Fi’n meddwl bod e’n genius nawr, achos wnaeth e gymaint o raglenni gwahanol. Oedd e fel utility player. Oedd S4C jyst yn towlu Hywel Gwynfryn mewn.
“Dyw e byth yn achwyn, byth yn conan. Ac mae e wastad yn dod lan â rhywbeth ac yn fodlon gwneud pethau peryglus. Mae’n fodlon gwneud ffŵl o’i hunan.”
Technoleg a heneiddio
Mae’r bennod gyntaf heno yn canolbwyntio ar fyd technoleg sydd, yn ôl Elis James, yn heneiddio’n wael iawn.
“Chi’n gweld maint y ffonau symudol a’r dechnoleg oedd pobol yn meddwl oedd yn mynd i newid bywyd yn 1985… Chi’n sylwi wnaeth neb brynu’r stwff na defnyddio’r stwff yna, er enghraifft pethau i osgoi cheque fraud. Sa’ i wedi sgrifennu siec ers pymtheg mlynedd!
“Mae rhaglenni technoleg, yn enwedig, yn heneiddio’n wael iawn ond maen nhw’n lot o sbort ac yn ddifyr iawn i wylio eto.”