Mae darlithydd mewn newyddiaduriaeth yn dweud bod angen creu “gorsaf radio annibynnol” ar gyfer darlledu rhaglenni Cymraeg.
Fe fydd Marc Webber, darlithydd ym Mhrifysgol Northampton, yn ymddangos o flaen y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn y Cynulliad heddiw (dydd Iau, Ebrill 25), wrth iddyn nhw ystyried sut mae’r diwydiant radio yng Nghymru wedi newid yn ddiweddar.
Ac yn ôl y darlithydd, sy’n un o sefydlwyr Bridge FM (Penybont-ar-Ogwr), mae’n pryderu bod lleisiau Cymraeg yn cael eu colli ar y radio yng Nghymru, a bod angen datrys y broblem honno.
“Beth sy’n bwysig i fi yw bod y bobol sy’n gallu siarad Cymraeg yn cael dewis ar y radio neu drwy audio, fel y mae pobol sy’n siarad Saesneg yn cael dewis,” meddai Marc Webber wrth golwg360.
“Ac mae yna ddewis ar gael, ond y gwir yw, dy’n nhw ddim yn gwybod yn gyfan gwbwl faint o oriau sydd ar gael trwy’r iaith Gymraeg, oherwydd mae’r [cwmnïau] radio annibynnol sy’n creu rhaglenni Cymraeg ddim yn helpu ei hunain i hysbysebu neu farchnata…”
Monopoli’r BBC
Er bod Marc Webber yn canmol BBC Radio Cymru am gynnig gwasanaeth Cymraeg, ac am sefydlu Radio Cymru 2 fel dewis arall i wrandawyr, mae’n credu bod y BBC wedi cael “monopoli” ers yn rhy hir.
“Mae’r amser ar gyfer y BBC lan yn fy marn i, maen nhw wedi cael virtual monopoli dros raglenni Cymraeg am sbel nawr,” meddai eto.
“Dw i ddim yn rhoi unrhyw farn ar beth mae’r BBC wedi’i wneud yn y maes yma, achos mae’n bwysig i’w gweld nhw’n datblygu gwasanaeth Cymraeg.
“Ond y gwir yw, pa effaith maen nhw’n ei gael ar Capital Cymru yn y gogledd? A pha fath o effaith mae’n ei gael yn atal pobol rhag dewis gorsaf eraill?”
Yn hyn o beth, mae’n beirniadu Capital Cymru am beidio â marchnata eu rhaglenni Cymraeg digon, ond mae’n eu canmol nhw hefyd am eu ddarparu ar eu gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.
“Mae hanner yr orsaf annibynnol yma yn barod… ond dwi’n hollol bendant mae’n rhaid i ni gael rhyw fath o radio annibynnol yn Gymraeg.”
Argymhellion eraill
Ymhlith argymhellion eraill y bydd Marc Webber yn eu cyflwyno i’r pwyllgor craffu heddiw, mae:
- costau darlledu am ddim i orsafoedd radio cymunedol yng Nghymru ar FM a DAB;
- Bwletinau newyddion Cymreig ar BBC Radio 2 yn ystod y sioe frecwast a sioe’r prynhawn;
- Ailsefydlu’r rhaglen hwyrol ar nos Iau ar BBC Radio 1 ar gyfer ei darlledu yng Nghymru yn unig;
- RAJAR i gynnig gwasanaeth rhad neu am ddim i orsafoedd cymunedol allu mesur nifer eu gwrandawyr;
- Gwasanaeth newyddion sy’n darparu penawdau a chlipiau sain o sesiynau’r Senedd i radio annibynnol a chymunedol, a hynny’n rhad ac am ddim.
Dyma Marc Webber yn esbonio’r “heriau” sy’n bodoli yn y diwydiant radio yng Nghymru ar hyn o bryd: