Mae mab y diweddar Carl Sargeant, Jack, sydd wedi olynu ei dad yn Aelod Cynulliad Alun a Glannau Dyfrdwy, mewn “sefyllfa ryfedd”, yn ôl un sylwebydd gwleidyddol.
Yr wythnos hon fe wnaeth Jack Sargeant ymatal rhag pleidleisio ar gynnig y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd i orfodi Llywodraeth Cymru i gyhoeddi manylion adroddiad am y cyn-weinidog.
Fe fethodd y cynnig ar ôl i Aelodau Cynulliad Llafur, oni bai am Jack Sargeant, bleidleisio gyda’r Llywodraeth, sy’n gwrthod cyhoeddi’r manylion oherwydd y gallai niweidio’r ymchwiliadau eraill ynghylch marwolaeth Carl Sargeant.
Mae’r gwrthbleidiau am i Lywodraeth Cymru gyhoeddi manylion yr adroddiad i honiadau bod manylion sacio’r diweddar AC o’r Cabinet wedi’u cyhoeddi yn answyddogol.
Wrth ddadansoddi penderfyniad Jack Sargeant i ymatal, dywed yn sylwebydd gwleidyddol mai dyna oedd y “peth doeth iddo fo wneud.”
“Roedd o naill ai yn mynd i bleidleisio yn erbyn neu roedd o’n mynd i eistedd ar ei ddwylo fel maen nhw’n dweud,” meddai Gareth Hughes wrth golwg360.
“Mae o mewn sefyllfa ryfedd i fod yn onest, achos mae’n rhaid iddo fo roi teyrnged i’w dad, felly doedd o’n methu pleidleisio efo’r grŵp Llafur ond yn sicr, doedd o ddim am roi cefnogaeth i’r Torïaid.
“Felly dw i’n amau mae’r peth doeth iddo fo wneud oedd beth ddaru fo wneud, sef eistedd ar ei ddwylo a pheidio pleidleisio o gwbl.”
Canolbwyntio ar yr ymchwiliad nesaf
Yn ôl Gareth Hughes, fe fydd Jack Sargeant a’i deulu bellach yn canolbwyntio ar yr ymchwiliad nesaf, sy’n ystyried yr amgylchiadau i sacio Carl Sargeant, a arweiniodd at ei farwolaeth.
Mae’r ymchwiliad hwnnw yn cael ei arwain gan Paul Bowen QC, ac mae ei deulu wedi mynegi pryderon heddiw dros y ffordd mae’n cael ei gynnal.
“Mae’r ymchwiliad yna [ar gyhoeddi manylion sacio Carl Sargeant] wedi’i wneud, mae’r casgliad yna, doedd yna ddim byd newydd fydda’ fo wedi medru cael allan o gyhoeddi’r adroddiad,” meddai Gareth Hughes.
“Dw i’n credu’r peth pwysig iddo fo ydy’r ymchwiliad yma sy’n cael ei wneud gan Paul Bowen.”