Mae cyfreithiwr teulu’r diweddar Carl Sargeant wedi mynegi “pryderon go-iawn” ynglŷn â’r ffordd y mae trydydd ymchwiliad i farwolaeth y cyn-AC yn cael ei gynnal.
Mae’r cyfreithiwr, Neil Hudgell, wedi anfon llythyr at y bargyfreithiwr, Paul Bowen QC, sydd wedi cael ei benodi i arwain yr ymchwiliad i’r ffordd y cafodd Carl Sargeant ei sacio yn dilyn honiadau o gamymddwyn rhywiol.
Daw cynnwys y llythyr i’r fei ar drothwy Cynhadledd Llafur Cymru yn Llandudno heddiw (dydd Gwener, Ebrill 20) – y gynhadledd gyntaf i gael ei chynnal ers marwolaeth Carl Sargeant fis Tachwedd y llynedd.
Y Llythyr
Mae’r llythyr ei hun, sydd wedi dod i law golwg360, yn cyfeirio at gyfarfod y grŵp Llafur Cymru yn y Cynulliad yr wythnos hon, lle dywedodd Carwyn Jones nad oedd Llywodraeth Cymru wedi oedi rhag cynnal yr ymchwiliad.
Mae’n debyg bod Carwyn Jones hefyd wedi dweud y dylai cwest y crwner fynd yn ei flaen.
Ond yn ôl Neil Hudgell, mae’n bwysig cynnal ymchwiliad Paul Bowen QC yn gyntaf, gan y bydd gwybodaeth yn deillio ohono o ddefnydd i’r crwner maes o law.
Mae hefyd yn cyhuddo’r Prif Weinidog o ymddwyn yn “anweddus” a “hynod ansensitif” wrth ddelio â’r ymchwiliad hwn a’r rhai blaenorol.
“Mae agwedd [Carwyn Jones yn y cyfarfod] ddoe a chyn hynny wedi achosi tipyn o bryder i’n cleient a’i deulu,” meddai Neil Hudgell yn y llythyr.
“Y ffaith amhosib i’w ddianc rhagddo yw bod rhywun wedi colli ei fywyd, sef aelod hoffus o’r teulu, ac mae angen dilyn y broses iawn… er mwyn sicrhau bod y rheiny a oedd agosaf at”yn darganfod rhyw ddiwedd i’r peth.”
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb trwy ddweud ei bod yn “amhriodol” i wneud sylw ar ohebiaeth rhwng cyfreithiwr y teulu a Paul Bowen QC.