36 o fedalau oedd y cyfanswm i Gymru ar ddiwedd Gemau’r Gymanwlad ar Arfordir Aur Awstralia.
Enillodd y Cymry ddeg medal aur, 12 medal arian a 14 o fedalau efydd, gan guro’u hymdrechion yn Auckland yn 1990 a Glasgow yn 2014.
Mae’r cyfanswm yn golygu bod Cymru’n gorffen yn seithfed yn y tabl.
Fesul campau, roedd chwech o fedalau ar y trac seiclo; pump ar y llain saethu, yn y pwll nofio ac ym myd athletau; pedair yn y paffio; tair yn y bowls; dwy yn y gymnasteg, codi pwysau a reslo; ac un yr un yn y tenis bwrdd a’r sboncen.
Y codwr pwysau Gareth Evans, y Cymro cyntaf i enill medal (aur), fydd yn cludo baner Cymru yn seremoni cau’r Gemau.
Y diwrnod olaf
Doedd dim medalau i Gymru ar y diwrnod olaf.
Roedd sylw’r Cymry wedi’i hoelio ar farathon y dynion a’r merched, a’r gystadleuaeth rygbi saith bob ochr.
Ym marathon y dynion, daeth Andrew Davies yn unfed ar ddeg a Josh Griffiths yn bymthegfed. Ymhlith y merched, roedd Caryl Jones yn wythfed ac Elinor Kirk yn bymthegfed.
Roedd timau rygbi saith bob ochr y dynion a’r merched ill dau yn seithfed.
Y medalau
Aur: Gareth Evans (codi pwysau, 69kg), Elinor Barker (seiclo ar y trac, ras bwyntiau 25km), Olivia Breen (athletau, naid hir T38), Marc Wyatt a Daniel Salmon (parau’r bowls), Hollie Arnold (athletau, taflu’r waywffon F46), Alys Thomas (nofio, 200m pili pala), David Phelps (saethu reiffl 50m), Michael Wixey (saethu, trap y dynion), Lauren Price (paffio, 75kg), Sammy Lee (paffio, 81kg).
Arian: James Ball (seiclo ar y trac, B&VI 1000m yn erbyn y cloc), James Ball (seiclo ar y trac, B&VI ras wib), Lewis Oliva (seiclo ar y trac, keirin), Laura Daniels (senglau’r bowls), Latalia Bevan (gymnasteg, ar y llawr), Ben Llewellin (saethu colomennod clai), Gareth Morris a Chris Watson (saethu, parau Gwobr y Frenhines), Daniel Jervis (nofio, 1500m dull rhydd), Laura Halford (gymnasteg rythmig, cylch), Kane Charig (reslo, dull rhydd 65kg), Jon Mould (seiclo, ras ffordd), Rosie Eccles (paffio, 69kg).
Efydd: Bethan Davies (ras gerdded 20km), Laura Hughes (codi pwysau, 75kg), Chloe Tutton (nofio, 200m dull broga), Tesni Evans (senglau’r sboncen), Georgia Davies (nofio, 50m dull cefn), Georgia Davies, Chloe Tutton, Alys Thomas a Kathryn Greenslade (nofio, ras gyfnewid 4x100m), Melissa Courtney (athletau, 1500m), Julie Thomas a Gilbert Miles (bowls, parau cymysg B2-B3), Curtis Dodge (reslo, 74kg dull rhydd), Olivia Breen (athletau, 100m T38), Mickey McDonagh (paffio, 60kg), Sarah Wixey (saethu, trap), Dani Rowe (seiclo, ras ffordd), Joshua Stacey (para-tenis bwrdd, senglau TT6-10)