Southern Kings 12–45 Gleision
Sicrhaodd y Gleision eu lle yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop y tymor nesaf gyda buddugoliaeth swmpus dros y Southern Kings yn Stadiwm Bae Nelson Mandela nos Sadwrn.
Sgoriodd y Cymry saith cais mewn buddugoliaeth gyfforddus ym Mhort Elizabeth, canlyniad sydd yn golygu eu bod yn sicr o orffen uwch ben y Gweilch yng nghyngres A y Guinness Pro14, a thrwy hynny sicrhau eu lle ym mhrif gystadlaeaeth Ewrop y tymor nesaf.
Dechreuodd y Gleision ar dân gydag Alex Cuthbert yn croesi wedi dadlwythiad taclus Nick Williams wedi dim ond dau funud.
Cais digon tebyg a oedd ail yr ymwelwyr bum munud yn ddiweddarach, Seb Davies yn hyrddio drosodd y tro hwn wedi dadlwythiad Willis Halaholo.
Roedd y Cymry yn llawer rhy gryf i’r Kings a sgoriodd Josh Turnbull y trydydd cais cyn i Halaholo dorri trwy daclo gwan i gael y pedwerydd o dan y pyst.
Gyda’r pwynt bonws yn ddiogel, daeth pumed i’r Gleision cyn yr egwyl wrth i sgarmes symudol effeithiol arwain at sgôr i Kirby Myhill.
Sgoriodd Ntabeni Dukisa gais cyntaf y tîm cartref yn gynnar yn yr ail hanner ond ymatebodd y Gleision yn syth gyda dau gais eu hunain; y cyntaf i Blaine Scully wedi cic daclus Jarrod Evans a’r ail i Myhill wedi sgarmes symudol arall.
Roedd cais cysur arall i’r Kings pan sgoriodd Lindokuhle Welemu ddeuddeg munud o’r diwedd ond roedd gagendor enfawr rhwng y ddau dîm mewn gwirionedd, 12-45 y sgôr terfynol.
Mae’r canlyniad yn cadw’r Gleision yn bedwerydd yn nhabl cyngres A y Pro14 ac ni all y Gweilch eu dal bellach.
.
Southern Kings
Ceisiau: Ntabeni Dukisa 48’, Lindokuhle Welemu 69’
Trosiadau: Masixole Banda 49’
Cerdyn Melyn: Schalk Ferreira 37’
.
Gleision
Ceisiau: Alex Cuthbert 2’, Seb Davies 7’, Josh Turnbull 25’, Willis Halaholo 32’, Kirby Myhill 38’, 55’, Blaine Scully 53’
Trosiadau: Jarrod Evans 3’, 8’, 26’, 33’, 44’