Mae milwr o’r Ffindir oedd yn byw ym Mhowys wedi’i ddedfrydu i flwyddyn o garchar am feddu ar nwy anghyfreithlon.

Fe blediodd Corporal Mikko Vehvilainen o Lansilin yn euog i fod ym meddiant storfa o’r nwy CS, a oedd yn cael ei gadw mewn drôr yn y tŷ yr oedd yn ei adnewyddu.

Fe wnaeth yr heddlu hefyd ddarganfod llun yn ei gartref a oedd yn ei ddangos yn gwneud arwydd Natsiaidd o flaen cofgolofn a oedd yn dynodi annibyniaeth ei wlad enedigol, y Ffindir.

Wrth ei ddedfrydu, fe ddywedodd y barnwr fod gan Mikko Vehvilainen “deyrngarwch hir a dwfn” i ideoleg hiliol.

Ychwanegodd wedyn ei fod yn gobeithio y bydd cyfnod yn y carchar yn ei alluogi i ystyried yr hyn mae am ei “gyflawni”, ac i roi’r bennod hon yn ei hanes “y tu cefn” iddo.

Cyhuddiadau eraill

 Fe gafodd y milwr ei ganfod yn ddieuog ddoe (dydd Iau, Ebrill 12) o fod ym meddiant dogfen frawychol, sef maniffesto o Annibyniaeth y terfysgwr o Norwy, Anders Breivik.

Yn ystod yr achos, fe gafodd eu datgelu bod gan Miko Vehvilainen focs a oedd yn cynnwys fflagiau Natsiaidd, ynghyd ag arfau a oedd yn cynnwys symbolau o gyfnod yr Ail Ryfel Byd.

Fe gafodd y milwr, sy’n dad i dri o blant, ei arestio fis Medi y llynedd, a hynny yn y man lle roedd ei deulu yn aros tra oedd yn gwasanaethu yn y gwersyll milwrol ym Mhontsenni.