Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth yn dilyn ymosodiad yn Llanelli ddechrau’r wythnos.

Fe fu’r ymosodiad am tua 1.20 y bore Mawrth (Ebrill 1), lle cafodd dyn ei daro nifer o weithiau yn ei ben ar Stryd Emma yn y dref.

Mae’r un oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad wedi’i ddisgrifio fel dyn tenau sy’n bum troedfedd ac wyth modfedd o daldra.

Fe ddaeth at y dioddefwr o gyfeiriad Stryd Llywelyn, cyn gadael am Stryd Marsh. Ni chafodd eiddo ei ddwyn.

Mae ymchwiliad i geisio adnabod y dyn yn parhau, ac mae’r heddlu’n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar y rhif, 101.