Mae pryderon unwaith eto am ddyfodol siopau wrth i gadwyn fawr Carpetright gyhoeddi y bydd yn cau bron chwarter ei siopau, gyda phedair o’r rheiny yng Nghymru.
Fe fydd tua 300 o swyddi yn mynd yn y gadwyn garpedi wrth iddi fynd i drefniant gwirfoddol i geisio dod tros broblemau ariannol difrifol ond dyw hi ddim yn glir eto faint o swyddi fydd yn mynd yng Nghymru wrth i siopau y Coed Duon, Caerffili, Llanelli a Chastell-nedd.
Mae gan y cwmni 11 o siopau eraill ledled Cymru, gan gynnwys nifer yn y Cymoedd a rhai mewn trefi mwy gwledig fel Bangor, Caerfyrddin ac Aberystwyth.
‘Gormod o siopau’
Y broblem fawr yw fod gan y cwmni “ormod o siopau mewn lleoedd gwael”, meddai Prif Weithredwr Carpetright Wilf Walsh.
Mae gan y cwmni 409 o siopau trwy wledydd Prydain a’r bwriad yw cau 81 yn ychwanegol at 11 sydd wedi cau eisoes.
Mae’r cyhoeddiad am Carpetright yn dilyn trafferthion nifer o gadwyni mawr eraill, gan gynnwys cwmni teganau Toys R Us.