Bydd cyfanswm o £28 miliwn yn cael ei fuddsoddi gan Lywodraeth Cymru mewn dau ysbyty yng ngorllewin Cymru.
Hynny er fod y ddwy ganolfan yn rhan o adolygiad o wasanaethau gan y Bwrdd Iechyd a bod straeon wedi bod am fygythiadau i’w dyfodol.
Bydd £25 miliwn yn mynd at ddatblygu cyfleusterau i fabanod newydd yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, gan greu rhagor o ystafelloedd geni a theatrau ar gyfer llawdriniaeth.
Ac fe fydd £3.1 miliwn yn cael ei fuddsoddi yn Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd, gyda’r nod o foderneiddio gwasanaethau canser.
Gwelliant “sylweddol”
“Bydd y cyllid hwn yn gwella ansawdd, diogelwch ac arloesedd clinigol ar y safle (Glangwili),” meddai’r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething.
“Bydd yn ei wneud yn haws i blant a’u rhieni gael gwasanaethau, yn ogystal â gwella llesiant y staff … Dylai’r gwaith datblygu hwn wella profiad y claf a’r llety ar gyfer teuluoedd yn sylweddol.
“Gan y bydd yn uned fwy, fydd dim cymaint o angen i deuluoedd deithio y tu allan i’w hardal i gael gofal am resymau sy’n ymwneud â diffyg capasiti.”