Mae dynes 31 oed wedi’i harestio mewn perthynas â marwolaeth John ‘Jack’ Williams, 67 oed yn Abertawe.
Mae’r ddynes yn y ddalfas wrth i’r ymchwiliad barhau.
Cafwyd hyd i gorff y dyn yn ei gartref yn ardal Pentrechwyth y ddinas ddydd Sadwrn, ac mae’r heddlu wedi apelio am wybodaeth gan unrhyw un oedd yn yr ardal nos Iau.
Yn gynharach heddiw, roedd yr heddlu’n rhybuddio am bostio negeseuon ar wefannau cymdeithasol mewn perthynas â’r digwyddiad.
‘Datblygiad arwyddocaol’
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu fod arestio’r ddynes yn “ddatblygiad arwyddocaol” yn yr achos, ond bod yr ymchwiliad yn parhau.
“Rydym yn parhau i gynnal ymchwiliad trylwyr yn ardal Abertawe i ddod o hyd i’r rhai oedd yn gyfrifol am farwolaeth Mr Williams, pensiynwr a gafodd ei lofruddio yn ei gartref ei hun.
“Bydd pobol ar draws y ddinas yn gweld mwy o bresenoldeb yr heddlu wrth i ni barhau â’n hymdrechion i ddod o hyd i’r sawl sy’n gyfrifol.”