Mae Archesgob Cymru ac Esgob Bangor ymhlith y rhai sydd wedi talu teyrnged i gyn-Esgob Bangor, Saunders Davies, fu farw ar Ddydd Gwener y Groglith yn 80 oed.

Roedd yn Esgob Bangor am bum mlynedd cyn ymddeol yn 2004, ond fe wasanaethodd yr Eglwys yng Nghymru am fwy na 40 o flynyddoedd.

Fe raddiodd o Brifysgol Bangor, Coleg Selwyn Caergrawnt a Phrifysgol Bonn cyn cael ei ordeinio yng Ngholeg Mihangel Sant yn Llandaf a dechrau ei weinidogaeth fel curad yng Nghaergybi.

Cafodd ei benodi’n ddiweddarach yn Ficer Eglwys Dewi Sant yng Nghaerdydd, lle bu’n gwasanaethu am 10 mlynedd.

Aeth yn Rheithor wedyn yng Nghricieth ac yn Archddiacon Meirionnydd.

Roedd yn allweddol yn natblygiad cynllun iaith Gymraeg yr Eglwys yng Nghymru.

‘Tristwch’

Dywedodd Archesgob Cymru, John Davies ei bod yn addas fod Saunders Davies wedi marw ar Ddydd Gwener y Groglith.

“Fe fydd y newyddion am farwolaeth yr Esgob Saunders Davies yn achosi tristwch i nifer yn yr Eglwys yng Nghymru lle gwasanaethodd yn ffyddlon am 40 o flynyddoedd.

“Bydd y newyddion am farwolaeth yr Esgob Saunders Davies yn achosi tristwch i lawer yn yr Eglwys yng Nghymru lle bu’n gwasanaethu’n ffyddlon am 40 mlynedd.

“Roedd Saunders yn unigolyn addfwyn, sanctaidd a gostyngedig, llawn dysgeidiaeth, gyda meddwl craff a chalon gynnes.

“Fe’i heffeithiwyd yn gynyddol gan Glefyd Parkinson yn ystod ei flynyddoedd diwethaf a oedd yn ei wanhau yn dangos ar ei iechyd.

“Er gwaethaf y ffaith fod yr afiechyd yn cynyddu, fe lywddodd i ysgrifennu ataf ar fy etholiad fel Archesgob, a gallaf weld ei gerdyn yn fy meddwl, a olygai ei fod wedi gwneud ymdrech aruthrol i ysgrifennu. Cefais fy nghyffwrdd o’i dderbyn.

“Ym mywyd yr eglwys, yn aml mae ‘partneriaethau’ nodedig o wr a gwraig, ac yn achos Saunders, roedd yn eithaf prin iddo gael ei grybwyll heb sôn hefyd am ei wraig Cynthia, a oedd yn ei gefnogi mor llawn a ffyddlon, a rhannu cymaint o fywyd, gweinidogaeth a dysgu.

“Iddi hi, a gweddill y teulu, yr wyf yn ymestyn sicrwydd fy nghariad a’m gweddïau.

“Mae’r ffaith fod Saunders wedi gadael y byd hwn ar ddydd Gwener y Groglith yn arwyddocaol. Gweddïwn y bydd, yn rhydd o fregusrwydd a gwendid, yn rhannu llawenydd addewid Crist o fywyd newydd.”

‘Cymro da ac ysbrydol’

Ychwanegodd Esgob Bangor, Andy John, “Bu i Saunders wasanaethu’r esgobaeth hon yn ffyddlon fel periglor, archddiacon ac esgob.

“Mae’n gweddïau a’n cydymdeimlad hefo Cynthia, Siôn, Angharad a’u teuluoedd. Mae Cymro da ac ysbrydol wedi mynd at ei Arglwydd. Boed iddo orffwys mewn tangnefedd ac atgyfodi mewn gogoniant.”