Bu farw’r cyn-brifathro a’r ymgyrchydd iaith, Emyr Hywel.

Roedd yn 72 mlwydd oed ac wedi treulio’r rhan helaethaf o’i oes ym mhentref Blaenporth, Ceredigion.

Fe fu’n brifathro ar Ysgol Tregroes yn y sir, ac roedd yn frwd ei gefnogaeth i fudiad yr Urdd ac i undeb athrawon UCAC.

Roedd hefyd yn un o gyn-gadeiryddion Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, ac fe fu’n un o hoelion wyth y mudiad Cymuned yn ardal Aberteifi. Fe ymladdodd etholiadau llywodraeth leol yn enw Llais Ceredigion hefyd.

Mae cyfeillion a chydnabod wedi bod yn talu teyrnged iddo ar y cyfryngau cymdeithasol, gan ei ddisgrifio fel “cyfaill” i’r iaith a’r diwylliant Cymraeg.

Roedd yn fardd ac awdur, ac wedi astudio bywyd a gwaith D J Williams ar gyfer ei radd MPhil ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ef oedd awdur y cofiant D J Williams: Y Cawr o Rydcymerau, ac ef olygodd Annwyl DJ, y casgliad o lythyrau rhwng y llenor â Saunders Lewis a Kate Roberts.

https://www.facebook.com/ffred.ffransis/posts/1863122413746308