Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cadarnhau y bydd Geraint Jarman a Bryn Terfel ymhlith y perfformwyr yn ystod cyngherddau nos yn ystod prifwyl y brifddinas eleni.

Ar y nos Wener a Sadwrn cyntaf (Awst 3 a 4) bydd dau berfformiad agoriadol yn cael eu cynnal yn y ‘pafiliwn’ yng Nghanolfan y Mileniwm, gyda Bryn Terfel yn perfformio gwaith newydd gan Robat Arwyn a Mererid Hopwood.

Bydd addasiad o gynhyrchiad Teilwng yw’r Oen ar y nos Sul (Awst 5), a chystadleuaeth farddol Siwper Stomp ar y nos Lun (Awst 6).

Mae disgwyl noson fwy bywiog ar nos Fawrth a Nos Iau (Awst 7 a 9) gyda Geraint Jarman a Band Press Llareggub yn perfformio.

“Cyhoeddiad mawr”

“Dyma gyhoeddiad mawr cyntaf Eisteddfod Caerdydd, sydd yn mynd i fod yn ŵyl ychydig yn wahanol i’r arfer oherwydd ei natur arbrofol a threfol,” meddai Elen Elis, Pennaeth Artistig a Threfnydd yr Eisteddfod.

“Ond wedi dweud hynny, mae Bae Caerdydd yn lleoliad ardderchog ar gyfer y Maes, [ac mae’r] cyfuniad o adeiladau eiconig parhaol yr ardal … gyda strwythurau deniadol dros dro fel iwrt y Tŷ Gwerin a tipîs Caffi Maes B, yn mynd i fod yn hynod gyffrous, gobeithio.”