Mae darlithydd Eifftoleg o Brifysgol Abertawe wedi darganfod darlun o Ffaro enwog Hatshepsut ar wrthrych yn un o storfeydd y Ganolfan Eifftaidd.
Hatshepsut oedd un o ychydig frenhinesau yr Hen Aifft, a digwyddiad oedd i’r Dr Ken Griffin sylwi mai ei phen hi oedd ar arteffact oedd wedi cael ei ddewis o blith degau ar eu dangos i fyfyrwyr Celf a Phensaernïaeth yr Aifft.
Roedd y gwrthrych – sy’n cynnwys dau ddarn o galchfaen â siâp afreolaidd, wedi’u gludo ynghyd – wedi bod yn y storfa am dros ugain mlynedd, a neb wedi meddwl bod dim yn hynod yn ei gylch.
Ar y tu blaen, gwelir pen ffigur ond mae’r wyneb ar goll. Mae rhan o wyntyll y tu ôl i’r pen, ac mae modd gweld olion o sgrifen hieroglyffig uwchlaw’r pen hefyd.
“Mae adnabod pen Hatshepsut ar y gwrthrych wedi achosi cyffro mawr ymhlith y myfyrwyr,” meddai Kenneth Griffith. “Wedi’r cwbwl, dim ond drwy drefnu sesiynau trin gwrthrychau ar gyfer myfyrwyr y daeth i’r amlwg.
“Er nad yw’r rhan fwyaf o’r myfyrwyr wedi ymweld â’r Aifft o’r blaen, mae’r sesiynau trin gwrthrychau yn helpu i ddod â’r Aifft atyn nhw.”
Ymwelydd profiadol
Ond os nad ydi myfyrwyr wedi bod yn yr Aifft, mae Kenneth Griffin ei hun wedi bod yno dros 50 o weithiau.
A dyna sut y sylwodd fod eiconograffeg yn debyg i gerfweddau a geir yn nheml Hatshepsut yn Deir el-Bahri (Luxor), a adeiladwyd pan oedd y Deyrnas Newydd ar ei hanterth. Mae’r ffordd y darluniwyd y gwallt, y rhuban pen â’r sarfflun troellog a’r addurno ar y wyntyll yn enwedig yn gyffredin iawn yn Deir el-Bahri.
Yn bwysicaf oll, mae’r hieroglyffau uwchlaw’r pen – rhan o destun fformiwläig sydd i’w gweld mewn mannau eraill yn y deml – yn defnyddio rhagenw benywaidd, arwydd clir mai menyw yw’r ffigur.
Hatshepsut oedd pumed ffaro’r Ddeunawfed Frenhinlin (tua 1478-1458 CC) ac roedd yn un o ychydig yn unig o fenywod i arddel y teitl. Yn gynnar yn ei theyrnasiad, byddai’n cael ei chynrychioli fel menyw yn gwisgo ffrog hir ond, yn raddol, dechreuwyd ei darlunio â phriodweddau mwy gwrywaidd, gan gynnwys barf.
Roedd teyrnasiad Hatshepsut yn nodweddiadol am ei heddwch a’i ffyniant a ganiataodd iddi adeiladu cofadeiladau ledled yr Aiff. Mae ei theml goffa yn Deir el-Bahri, a adeiladwyd i ddathlu a chynnal ei chwlt, yn gampwaith o bensaernïaeth Eifftaidd.