Mae polisi Cyngor Gwynedd tuag at y gwasanaeth ieuenctid yn “lladd” yr hyn cafodd ei sefydlu gan sylfaenwyr y gwasanaeth.
Dyna farn y newyddiadurwr Gwilym Owen a fu’n Ddirprwy Swyddog Ieuenctid i Gyngor Sir Gaernarfon yn yr 1960au, cyn i Gyngor Gwynedd gael ei sefydlu.
Bellach mae Cyngor Gwynedd wedi cyhoeddi toriadau gwerth £270,000 i’r gwasanaeth, a fydd yn arwain at gau 39 o glybiau ieuenctid ledled y sir.
Yn eu lle, mi fydd un clwb yn cael ei sefydlu i weithredu dros y sir gyfan, gyda gweithiwr ieuenctid yn cael ei osod ym mhob ysgol.
“Mae’r holl gynllun hyd y gwela’ i yn hynod o niwlog,” meddai Gwilym Owen wrth golwg360. “Beth sy’n cymryd lle hyn i gyd?
“Mae ynghlwm wrth ysgolion. Maen nhw’n mynd i roi swyddog ieuenctid ynghlwm wrth bob ysgol uwchradd. Wel, mae’r gwasanaeth ieuenctid o anghenraid yn gorfod bod yn rhywbeth tu allan i oriau ysgol. Ac yn cael ei gynnal ar lefel gwbwl wahanol.”
Ifor Bowen Griffith
Mae Gwilym Owen yn sôn am ei amser yn gweithio i Gyngor Sir Gaernarfon hanner canrif yn ôl, a’r “owyslais mawr” roddwyd ar weithgarwch clybiau tu allan i furiau’r ysgol.
Ifor Bowen Griffith (IB) oedd bennaf gyfrifol am wasanaethau ieuenctid y sir ar y pryd, ac mae Gwilym Owen yn canmol “gweledigaeth” y dyn a ddaeth yn Faer Caernarfon ac yn ffigwr cenedlaethol.
“Roedd y gwasanaeth yma i drïo gwneud rhyw fath o deimlad cymunedol, a dyna oedd teimlad mawr Ifor Bowen Griffith, a finnau hefyd i rannau helaeth,” meddai Gwilym Owen.
“Roedden ni’n trïo adeiladu cymuned, a phobol ifanc yn eu cymuned, oherwydd nhw ydi’r bobol ifanc sy’n mynd i aros yno i briodi a magu plant i’r dyfodol.
“Nid y rheiny oedd mwyaf galluog, oedd yn mynd ymlaen i goleg, sy’n gwneud hynny. Roedden ni’n trïo creu rhywbeth ar eu cyfer nhw.”