Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod caniatâd cynllunio i ddatblygwr godi 366 o dai newydd yn ardal Pen y Ffridd, Bangor.
Fe fu’n rhaid i’r llywodraeth setlo’r ddadl, wedi i Gyngor Gwynedd wrthod caniatâd ddwywaith i gwmni Morbaine, ar sail effaith posib y tai newydd ar yr iaith Gymraeg. Ond fe apeliodd Morbaine – ac ennill y ddadl – yn 2016.
Roedd apêl pobol leol wedi’i seilio ar yr effaith y byddai’r datblygiad yn ei gael ar ardal Penrhosgarnedd; y pwysau ychwanegol ar wasanaethau cyhoeddus; yn ogystal â’r effaith andwyol ar yr iaith Gymraeg yn y ddinas.
“Mae’r Arolygydd o’r farn bod y sefyllfa [yng Ngwynedd] wedi newid yn sylweddol yn sgil mabwysiadu’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (ym mis Gorffennaf 2017) a’i bod yn bosib y byddai effaith y datblygiad ar y Gymraeg yn newid hefyd,” meddai’r Aelod Cynulliad, Lesley Griffiths.
“Mae’r Arolygydd yn rhannu pryderon y Cyngor, ac nid yw’n argyhoeddedig bellach fod y wybodaeth a gyflwynwyd yn profi na fyddai’r datblygiad yn cael effaith niweidiol ar y Gymraeg.”