Mae marwolaeth merch ddwyflwydd oed yn Aberteifi ddechrau’r wythnos, wedi ysgwyd mamau sy’n mynd â’u plant i’r un Cylch Ti a Fi â hi ym mhentref Drefach Felindre yn Sir Gaerfyrddin.
Mae golwg360 wedi bod yn siarad â nifer o’r rhieni, ac er nad oedd neb am wneud sylw dan eu henwau, mae pob un yn sôn am “alar”, am ” sioc” ac am “dristwch” ardal gyfan.
“Mae’r sioc a’r galar yn enfawr,” meddai un fam, “ac mae pawb yn ceisio dygymod â’r newyddion trist.”
Cafodd Kiara Moore ei chanfod mewn car yn afon Teifi ar ôl iddi gael ei gadael yn y cerbyd a oedd wedi’i barcio ar lithrfa yn Aberteifi. Bu farw’r ferch fach yn ddiweddarach yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd.
“Mae pawb yn y pentref mewn sioc,” meddai mam arall wrth golwg360.
“Fel rhiant i blentyn bach fy hun, mae’r newyddion am farwolaeth Kiara fach yn fwy trist…
“Mae fy nghalon i’n gwaedu dros ei rhieni, yn enwedig y fam, sydd â’i chalon yn deilchion, dw i’n siŵr.
“Ddylai rhiant fyth orfod mynd trwy’r fath brofiad o golli plentyn, heb sôn am ei cholli mewn damwain mor erchyll.”
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i ymchwilio er mwyn ceisio deall yn iawn beth ddigwyddodd.
Mae Uwch Grwner Ceredigion wedi agor, a gohirio, cwest i amgylchiadau marwolaeth Kiara Moore. Mae corff y ferch fach eto i gael ei adnabod yn ffurfiol.