Mae unig gynghorydd Plaid Cymru ym Mlaenau Gwent wedi cefnu ar y blaid – a hynny’n rhannol oherwydd gwaharddiad yr Aelod Cynulliad, Neil McEvoy.
Daeth Gareth Leslie Davies, sy’n cynrychioli ward Cwm, i’w benderfyniad neithiwr (nos Fawrth, Mawrth 20) a hynny wedi iddo gyrraed “pen ei dennyn” â Phlaid Cymru.
Ddydd Llun, fe ddaeth y cyhoeddiad gan y blaid yn ganolog fod Aelod Cynulliad Canol De Cymru, Neil McEvoy, wedi’i wahardd am flwyddyn a hanner.
“Roeddwn i’n meddwl i fy hun, ar sail y trywydd roeddwn i’n ei ddilyn, y bydden nhw’n fy ngwahardd i, oherwydd roeddwn i’n teimlo fy mod i’n methu cefnogi’r blaid yn rhagor,” meddai Gareth Leslie Davies wrth golwg360.
“Felly wnes i adael cyn i hynna ddigwydd. Mae gen i gefnogaeth yn fy mhentref.”
Mae Gareth Leslie Davies yn nodi na fydd yn troi at Lafur na’r un blaid arall, ond fe fydd yn aelod annibynnol “ar ryw ffurf” o hyn ymlaen.
Neil McEvoy
Mae Gareth Leslie Davies yn galw Neil McEvoy yn “gydweithiwr, dyn dw i’n ei edmygu cryn dipyn”, ac mae’n nodi ei “siom” i glywed am y gwaharddiad.
Ac mae’n dweud y byddai’r Aelod Cynulliad wedi ennyn arno i aros.
“Dw i’n gwybod y byddai Neil yn annog i mi ddal ati ac aros, ond mae’n rhy hwyr,” meddai. Dw i wedi gwneud fy mhenderfyniad.”
“Ond, dw i’n edmygu’r dyn yna oherwydd beth wnaethon nhw iddo fe. Maen nhw’n ei hoffi yn ei ardal, mae yna lawer o waith da. Ac mae pawb dw i wedi siarad gyda, wedi siomi’n arw.
“Yr hen ffyrdd”
Rheswm arall am adael, meddai, yw ei fod yn anghytuno â thrywydd y blaid gan nodi ei bod “wedi methu” a’i bod yn “cefnogi’r hen ffyrdd.”
“I fod yn onest, dw i’n ddyn lleol a dw i’n credu os ydych yn wleidydd lleol, dylech fod yn cefnogi eich ardal a’ch cymuned,” meddai.
“Ac roeddwn i wedi cael llond bol clywed am ogledd Cymru a phawb arall a dim clywed digon am yr ardal yma a chymryd camau ymlaen.”
Ymateb Plaid Cymru
“O edrych ar y darlun mawr mae cynghorwyr wedi symud at Blaid Cymru yn ddiweddar, a’r arwyddion yn yr arolygon barn ac ar lawr gwlad yw fod cefnogaeth i’r blaid yn tyfu, nid crebachu.
“Rydym yn benderfynol o ganolbwyntio ar gyflwyno ein neges gadarnhaol am godi cenedl newydd a chynnig dewis amgen i’r Llywodraeth Lafur ddiog a difflach hon.”