“Ma’ isie glanhau’r stabal mas” – dyna yw barn aelod o gangen Tref Llanelli o Blaid Cymru, sydd am weld y blaid yn bwrw ati i wella’r sefyllfa yno.
Ers Chwefror 17 mae’r gangen gyfan wedi’i gwahardd gan y blaid yn ganolog, a hyd yma mae sawl aelod wedi ymddiswyddo mewn protest.
Wrth wraidd y ffrae mae anfodlonrwydd y gangen â sut y cafodd Mari Arthur, ymgeisydd Llanelli ar gyfer Etholiad Cyffredinol 2017, ei dewis.
Does “dim byd” wedi digwydd yn y gangen ers i’w perthynas â’r blaid ganolog ddirywio, yn ôl yr aelod sy’n siarad â golwg360 ar yr amod ei fod yn aros yn ddienw, ac mae’n galw am “ddechrau eto â llechen lan”.
“Dim parch”
“Fel i fi’n gweld hi nawr, mae’r penderfyniad wnaeth Plaid nôl ym mis Ebrill blwyddyn ddiwethaf i orfodi ymgeisydd arnom ni, wedi rhacsan y blaid,” meddai’r aelod.
“Does gyda fi ddim parch o gwbwl ati [y blaid yn ganolog]. Sa i’n gwybod lle mae’r blaid yn mynd ar y funud. Dw i ddim yn mynd i’r gynhadledd [wanwyn, sydd i’w chynnal yn Llangollen ddydd Gwener a dydd Sadwrn yr wythnos hon, Mawrth 23 a 24].
“Dw i’n teimlo’n anhapus iawn,” meddai wedyn. “So nhw’n fodlon cwympo ar eu bai.”
Er gwaetha’ pawb a phopeth
Ers cael eu gwahardd, mae aelodau Llanelli wedi derbyn cyfarwyddy gan Brif Weithredwr y Blaid, Gareth Clubb, i “beidio â chysylltu â’r wasg” na “chyfarfod yn enw’r gangen”.
Ond, fe gafodd digwyddiad Dydd Gŵyl Dewi’r gangen ei gynnal er gwaetha’ hyn, yn ôl yr aelod – a hynny mewn bwyty Indiaidd yn y dref. Mae’n nodi ei bod yn “noswaith ddigon llwyddiannus” gyda thua 25 o bobol yn bresennol.
Er hyn, wrth ddisgrifio cyflwr y gangen ar hyn o bryd, mae’r aelod yn dweud bod yr aelodau o hyd wedi eu cloi o’u swyddfa gangen, a bod gan aelodau fynediad i “ddim byd”.
Fe ofynnodd golwg360 i Blaid Cymru yn ganolog am ymateb, ac maen nhw wedi dod yn ôl gan ddweud nad ydyn nhw’n ymateb i sylwadau anhysbys.