Fe fydd cyflwyno’r Credyd Cynhwysol – y drefn newydd o dalu budd-daliadau – yn arwain at “gynnydd sylweddol” yn nifer y bobol yng Nghymru fydd angen defnyddio banciau bwyd. Dyna rybudd y Trussell Trust sy’n gweithio gyda chymunedau er mwyn ceisio gwneud yn siwr fod neb yn mynd heb fwyd.
Mae Cyfarwyddwr y corff, Tony Graham, yn dweud fod banciau bwyd yng Nghymru eisoes yn paratoi ar gyfer darparu ar gyfer mwy o bobol sydd angen help pan fydd y system fudd-daliadau newydd yn cael ei chyflwyno.
Mae’r system newydd yn disodli’r budd-dal tai, budd-daliadau diweithdra a chredydau treth.
“Rydym wedi gweld cynnydd o 30% yn y defnydd o fanciau bwyd mewn ardaloedd o gyflwyno credyd cyffredinol yn Lloegr, felly byddem yn disgwyl i ryw fath tebyg o gyfartaledd ddigwydd yma yng Nghymru pan gaiff credyd cynhwysol ei gyflwyno’n llawn,” meddai Tony Graham.
Mae’r system newydd wedi’i chyflwyno’n llawn yn Nhorfaen ac yn Sir y Fflint eisoes, ac mae’r broses o gyflwyno ar ddechrau mewn rhai siroedd eraill yng Nghymru, gan gynnwys Caerdydd. Sefydlwyd banc bwyd cyntaf Trussell Trust yng Nghymru yng Ngŵyl yr Eglwys yng Nglynebwy ddeng mlynedd yn ôl i’r wythnos hon.
Yn ei flwyddyn gyntaf, rhoddodd y sefydliad 76 o gyflenwadau bwyd brys tridiau, ond mae’r rhwydwaith wedi tyfu i gynnwys 37 o fanciau bwyd a 110 canolfan ddosbarthu ledled Cymru.
Y llynedd, rhoddwyd 95,190 o gyflenwadau tridiau i deuluoedd mewn argyfwng ledled Cymru.