Mae lori wedi taro i mewn i bont reilffordd ym Mhowys gan achosi oedi ar y ffordd ac i wasanaethau trenau.
Mae’r cerbyd wedi troi drosodd ar ôl taro pont rhwng Heol Vaynor a Mochdre Lane wrth yrru ar hyd yr A489 Ffordd Llanidloes yn Y Drenewydd.
Mae’r ffordd ar gau i’r ddau gyfeiriad, ac mae gwasanaethau trên tua deng munud yn hwyr rhwng Y Drenewydd a Chaersws ar y llinell rhwng Aberystwyth a’r Amwythig.
Mae disgwyl i unrhyw effaith ar drenau fod heibio erbyn 11yb.