Mae’r Arglwydd Crughywel, Nicholas Edwards, wedi marw yn 84 oed.
Yn gyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru, fe gynrychiolodd Penfro yn Nhŷ’r Cyffredin rhwng 1970 a 1987 cyn cael ei urddo’n Arglwydd.
Cafodd ei eni yn Llundain yn 1942, gan dderbyn ei addysg ym Mhrifysgol Caergrawnt, a bu’n gweithio ym myd yswiriant cyn troi’n wleidydd.
Fe chwaraeodd rhan flaenllaw yn y broses o adfywio ardal y dociau yng Nghaerdydd, ac roedd yn honni iddo fod â rhan allweddol wrth sefydlu S4C.
Tra’n weinidog, gyda Margaret Thatcher yn Brif Weinidog, hybodd gysylltiadau rhwng Cymru a Japan, a chafodd sawl ffatri ei sefydlu yn sgil hyn.
Dychwelodd i fyd busnes wedi ei yrfa ym myd gwleidyddiaeth.
Â’r celfyddydau o ddiddordeb iddo, chwaraeodd rhan bwysig wrth sicrhau safle parhaol i Opera Genedlaethol Cymru yn ystod yr 1990au.
“Gwleidydd o fri”
Mewn teyrnged iddo, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies bod yr Arglwydd Crughywel yn “ysbrydoliaeth i genhedlaeth o Geidwadwyr Cymreig ac mae ei farwolaeth yn newyddion hynod o drist i’w deulu a ffrindiau.”
A dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns wrth roi teyrnged iddo: “Mae’n drist iawn i glywed fod yr Arglwydd Crucywel wedi marw ar ôl cyfnod o salwch. Roeddwn i wedi sgwrsio gyda fe dros y ffôn dim ond ychydig wythnosau yn ôl, lle roedden ni’n siarad am ei gyfnod yn y Swyddfa a’r heriau yr oedd wedi ei wynebu.
“Roedden ni’n chwerthin am un o fy atgofion cynnar ohono’n wynebu protestiadau yn yr Eisteddfod wrth i mi ei wylio o bell fel bachgen ysgol yn cystadlu – mae’n un o fy atgofion gwleidyddol cynharaf a mwyaf llachar.
“Roedd yr Arglwydd Crucywel yn ysbrydoliaeth i mi o oedran ifanc iawn, ac rwyf yn ei edmygu am yr arweiniad a ddangosodd fel Ysgrifennydd Cymru. Roedd yn wleidydd o fri, ond yn bwysicach yn ddyn gwych a osododd y meincnod fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru.”