Mae cwmni o Bowys wedi cael ei ddirwyo £45,320 am lygru afon yn ne’r sir.
Cafodd darn o Afon Llynfi ger Talgarth, ynghyd â chyflenwad dŵr yfed, eu llygru wedi i gwmni GP Biotec Ltd ollwng deunydd organig yn anghyfreithlon.
Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, cafodd lefel “annerbyniol” o’r deunydd ei ledaenu, ac fe ddigwyddodd hyn yn ystod “amodau tywydd anaddas”.
O ganlyniad i’r llygru, mae’r corff yn dweud y bu cwymp yn ansawdd y dŵr a gostyngodd niferoedd bywyd gwyllt yn yr afon.
“Atal llygredd”
“Amddiffyn amgylchedd Cymru yw ein pwrpas,” meddai Chris Rees, Arweinydd Tîm o Gyfoeth Naturiol Cymru.
“Rydym yn gweithio i atal llygredd ac yn cynnig cyngor ar fabwysiadu arferion da. Rydym yn parhau i weithio â GP Biotec Ltd, gyda chymorth technegol gan Farming Direct.”