Mae Aelod Seneddol yng Nghymru o dan y lach ar ôl iddo wneud sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol yn cysylltu’r Blaid Geidwadol â’r ymosodiad ar gyn-ysbïwr yn Salisbury (Caersallog).
Ar y wefan gymdeithasol, Twitter, fe gyhuddodd Paul Flynn, Aelod Seneddol Llafur dros Orllewin Casnewydd, y Ceidwadwyr o gael eu hariannu gan y rheiny a oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad ar gyn-ysbïwr o Rwsia a’i ferch dros wythnos yn ôl.
“Y Blaid Geidwadol – yn cael eu noddi’n swyddogol gan laddwyr y nwy nerfol,” meddai Paul Flynn yn ei sylw.
Cyhuddo Rwsia
Fe wnaeth ei sylw ddiwrnod ar ôl i’r Prif Weinidog, Theresa May, ddatgan i aelodau’r Senedd yn San Steffan ei bod yn “debygol iawn” mai Rwsia oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad yn Salisbury, gan adael cyn-ysbïwr o’r wlad, sef Sergei Skrpal, a’i ferch, Yulia, mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.
Cyhoeddodd hefyd mai math o nwy nerfol sy’n cael ei ddatblygu gan fyddin Rwsia, ac sy’n aelod o’r teulu novichok, a gafodd ei ddefnyddio yn yr ymosodiad.
Yn dilyn y cyhoeddiad, fe ymatebodd arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, drwy honni bod gwerth dros £800,000 o roddion wedi’i rhoi gan gyfoethogion o Rwsia i’r Blaid Geidwadol yn ddiweddar.
“Rydyn ni i gyd yn gyfarwydd â’r ffordd y mae cyfoeth enfawr, sy’n cael ei ennill trwy ffyrdd dirgel yn Rwsia, ac yn gysylltiedig ag elfennau drwg ar adegau, wedi cael lloches yn Llundain ac yn ceisio prynu dylanwad gwleidyddol yng ngwleidyddiaeth bleidiol gwledydd Prydain,” meddai.
“Rydyn ni’n gwybod bod gwerth dros £800,000 wedi’i roi mewn rhoddion i’r Blaid Geidwadol oddi wrth gyfoethogion o Rwsia a’u cynghreiriaid.”
Beirniadu Paul Flynn
Er bod Paul Flynn wedi dileu’r neges ar Twitter erbyn hyn, mae nifer wedi’i feirniadu am ei sylwadau, gan alw am ymddiheuriad llawn ganddo.
Yn ôl Amandeep SinghBhogal, ymgyrchydd dros y Blaid Geidwadol, mae’n credu y dylai Jeremy Corbyn fynnu bod Paul Flynn yn gwneud “y peth iawn” ac ymddiheuro i’r Blaid Geidwadol a gwneud cyfraniad ariannol i elusen ar gyfer cyn-filwyr.
Yng Nghymru wedyn, mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, wedi dweud bod hyn yn “wael iawn” gan Paul Flynn, er ei fod “yn siŵr” bod yna ymddiheuriad ar y ffordd.
Dyw Paul Flynn ddim wedi cyhoeddi ymddiheuriad eto. Ond mae ei dudalen Twitter yn dangos trydariadau eraill sy’n cefnogi cyhuddiad Jeremy Corbyn yn erbyn y Blaid Geidwadol.