Mae un o brif gyflwynwyr The One Show yn dweud ei bod hi “ar y slei” yn gobeithio dychwelyd i Gymru i fyw pan fydd ei mab blwydd oed “yn hŷn”.
Yn ôl Alex Jones, sy’n wreiddiol o Rydaman ond bellach yn byw a gweithio yn Llundain, mae’n “her fawr” magu plentyn yn ddwyieithog yng nghanol y ddinas fawr.
“Dw i wedi cael fy nghodi yn ddwyieithog, a bydden i’n lico bod Ted yn cael ei godi’n ddwyieithog,” meddai wrth golwg360. “Ond mae hynny’n her fawr yn byw yng nghanol Llundain.
“Mae yna bosibiliadau… ni’n mynd i gylch meithrin Cymraeg bob dydd Gwener. Mae ´na ysgol gynradd Gymraeg yn Llundain hefyd, ond, wrth gwrs, does dim ysgol gyfun.”
“Ond dw i’n gobeithio, ar y slei, y bydden i ´nôl yng Nghymru erbyn hynny, a bydd e ddim yn broblem…”
Rhaid gwneud “ymdrech”
Er gwaethaf rhai cyfleoedd prin, mae Alex Jones yn dweud bod angen gwneud “ymdrech i gwrdd â chylch o famau Cymraeg” yn Llundain.
“Mae ´na ddigon o Gymry yn Llundain, ond mae’n rhaid treulio amser yn chwilio am y bobol yma, achos i fi, mae cael cwpaned o de bob dydd Gwener gyda chriw o Gymru yn gwneud i fi deimlo bo fi’n cael bach o gartre.
“Ac er bo’ Ted yn fach iawn, dw i’n siŵr ei fod yn elwa llawer ohono fe ar hyn o bryd.
“Dw i’n teimlo bod gadael iddo fe gael dwy awr o chwarae trwy gyfrwng y Gymraeg bob dydd Gwener yn ei helpu. Ac, wrth gwrs, dw i’n siarad gydag e bob dydd [yn Gymraeg] – dyna’n iaith ni’n dau.”
Dyma glip o Alex Jones yn sôn yn llawnach am yr “heriau” sy’n ei hwynebu wrth geisio magu plentyn trwy gyfrwng y Gymraeg yn Llundain…
Mi fydd Alex Jones: Y Fam Gymreig yn cael ei darlledu ar S4C heno (nos Sul, Mawrth 11) am 8yh.