Mae un o drefnwyr Eisteddfod Rhyng-golegol 2018 yn dweud ei bod yn “beth da” bod yr eisteddfod yn ymweld â “thref fach” fel Llanbedr Pont Steffan.
Mi fydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal yn ystod y penwythnos hwn ym Mhrifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant, a hynny ar gampws Llanbedr Pont Steffan.
Er i’r brifysgol gynnal y digwyddiad bum mlynedd yn ôl, a hynny yng Nghaerfyrddin yn 2013, dyma’r tro cyntaf iddo gael ei gynnal yn y dref fechan yng Ngheredigion.
Ac yn ôl Llywydd Cymdeithas Gymraeg y brifysgol , Ifan Thomas, mae’n credu y bydd yr Eisteddfod yn “beth da” i dref fel Llanbed, sy’n cynnwys nifer o “fusnesau bach lleol”.
“Mae tref fel Llambed, does dim lot o fusnesau mawr yma,” meddai wrth golwg360, “felly mae[‘r Eisteddfod] yn cefnogi lot o fusnesau bach lleol.”
“Mi fydd yn dod â lot o arian yn ôl i’r gymdeithas leol a phethau fel ´na.”
Digwyddiadau’r penwythnos
Mae’r digwyddiad eisoes wedi cychwyn heddiw (Mawrth 9), a hynny ar gyfer cystadlaethau chwaraeon – sy’n cynnwys rygbi, pêl-droed a chystadleuaeth pêl-rwyd 7 bob ochr.
Bydd yr eisteddfod ei hun yfory (dydd Sadwrn, Mawrth 10), gyda’r DJ Mark Griffiths a’r gyflwynwraig Lisa Angharad yn arweinwyr y dydd, a’r actores Elin Llwyd a’r cyflwynydd Rhydian Bowen Phillips yn feirniaid.
Yn ystod yr hwyr wedyn, bydd bandiau Y Cledrau, Fleur de Lys, Gwilym a DJ Garmon yn perfformio mewn gig i gloi’r penwythnos.
Mae disgwyl i fyfyrwyr o brifysgolion Bangor, y Drindod Dewi Sant, Aberystwyth, Caerdydd ac Abertawe gymryd rhan yn y digwyddiad.
Dyma Ifan Thomas yn egluro pam ei fod yn “edrych ymlaen” at y penwythnos…