Bydd tair tirwedd yng Nghymru yn derbyn bron i £5.5 miliwn gan y Loteri Genedlaethol, er mwyn eu gwarchod a’u datblygu’n economaidd.
Gwastadeddau Gwent;Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy; a Chwm Elan yw’r tirweddau fydd yn elwa; ac mae disgwyl i hyn greu 4,000 o gyfleoedd hyfforddi a gwirfoddoli.
Bydd yr arian yn helpu prosiectau yn y tair ardal i greu llwybrau newydd, gwella adnoddau i ymwelwyr, a diogelu rhywogaethau lleol.
“Ffynnu”
“Mae’r ardaloedd hyn yn cael eu cydnabod yn briodol nid yn unig am eu harddwch, ond am y rôl allweddol maen nhw’n ei chwarae wrth gynrychioli cymunedau unigryw Cymru,” meddai’r Gweinidog Twristiaeth, Dafydd Elis-Thomas.
“Bydd y gefnogaeth sylweddol hon gan y Loteri Genedlaethol yn galluogi’r tirweddau hyn i ffynnu o safbwynt amgylcheddol, tra hefyd yn denu manteision economaidd cynyddol gan dwristiaid a busnesau drwy swyddi newydd a chyfleoedd hyfforddi.”