Mae nifer o ffyrdd yng ngorllewin a gogledd Cymru yn parhau wedi cau, yn dilyn gwyntoedd cryfion ac eira dros nos.

Wrth i Storm Emma gwrdd â gwyntoedd oer y dwyrain neithiwr a’r bore yma, mae nifer o goed wedi cwympo a lluwchfeydd yn golygu bod teithwyr yn wynebu trafferthion.

Ceredigion

 Yng Ngheredigion, mae nifer o ffyrdd wedi cau oherwydd bod yr amodau tywydd yn parhau’n “ddrwg iawn”, yn ôl y cyngor.

Mae pob un o’r ffyrdd yng ngogledd a gorllewin y sir, gyda’r A120 rhwng Ponterwyd i Bontarfynach a’r B4343 rhwng Tregaron a Pontrhydfendigaid ynghau.

Mae’r cyngor hefyd yn dweud na ddylai gyrwyr deithio ar y A44 rhwng Gelli Angharad a Llangurig.

Er hyn, mae ffyrdd y A487 yn Nhalybont, y B340 ger Trawscoed a’r B4353 ger Llangynfelyn bellach wedi’u hailagor.

Gwynedd

Yng Ngwynedd wedyn, mae’r cyngor yn dweud bod yna “sawl ffordd” wedi cael eu heffeithio, a bod nifer o goed wedi disgyn.

“Rydym yn gofyn i’r cyhoedd fod yn amyneddgar tra bod ein criwiau allan yn delio gyda nifer o broblemau,” meddai llefarydd ar ran y Cyngor.

 Sir Gaerfyrddin

 Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin hefyd yn dweud bod pob rhan o’r sir wedi cae eu heffeithio gan y tywydd, ond bod criwiau wedi bod wrthi drwy gydol y bore yn ceisio clirio coedydd oddi ar y ffyrdd.

Mae ffordd Mynydd Pen-Bre, sef y C2122 rhwng Porth Tywyn a Thrimsaran, ynghau oherwydd nifer o ddamweiniau ffyrdd.

Ac maen nhw hefyd yn dweud nad oes modd teithio ar Riw Pentywyn yn ne-orllewin y sir ar hyn o bryd.