Mae teithwyr yng Nghymru yn cael eu cynghori i gymryd gofal heddiw, wrth i rybudd tywydd melyn ac oren ddod i rym ledled y wlad.
Dros y dyddiau diwethaf, mae awel oer o Rwsia wedi achosi i’r tymheredd blymio ledled gwledydd Prydain, a bellach mae Storm Emma wedi cyrraedd y glannau o’r Môr Iwerydd.
Mae disgwyl i hyn achosi rhagor o eira trwm, stormydd rhewllyd a thymheredd is fyth, gyda rhagolygon eisoes yn rhybuddio y gall hi deimlo mor oer â minws 11C mewn rhai ardaloedd.
Yn ôl Simon Partridge o’r Swyddfa Dywydd, mae’n bosib y bydd 50cm o eira yn syrthio mewn rhannau o dde orllewin gwledydd Prydain erbyn ddydd Gwener.
“Os nad oes rhaid i chi fynd i unrhyw le dros y dyddiau nesa’, arhoswch gartre,” yw ei rybudd.
Graeanu
Mae 133 o lorïau wrthi’n graeanu ffyrdd ledled Cymru y bore yma, ac mae Llywodraeth Cymru yn cynghori’r cyhoedd i wrando ar ragolygon Traffig Cymru a’r Swyddfa Dywydd.