Fe fydd cynlluniau ar gyfer cyflwyno Bil Brys yn cael eu hamlinellu gan Lywodraeth Cymru heddiw (Chwefror 27), a hynny mewn ymgais i ddiogelu datganoli yng Nghymru wedi Brexit.

Daw’r cam hwn wrth i Lywodraeth Cymru boeni am y ffordd y mae’r Mesur i Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd wedi’i ddrafftio ar hyn o bryd, gan olygu y bydd hawl gan Lywodraeth San Steffan i gymryd rheolaeth dros feysydd datganoledig fel ffermio a physgota yn dilyn Brexit.

Maen nhw hefyd yn cyflwyno cynlluniau ar gyfer y bil hwn oherwydd nad oes unrhyw gytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a San Steffan wedi’i wneud eto ar ddiwygio rhannau o’r Mesur Brexit.

Fel rhan o’r Bil Brys, mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio trosglwyddo Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd mewn meysydd wedi’u datganoli i fod yn rhan o gyfraith Cymru ar ôl Brexit, gan sicrhau sicrwydd cyfreithiol i fusnesau Cymru.

“Amddiffyn y setliad datganoli presennol”

Yn ôl y Prif Weinidog, Carwyn Jones, mae Llywodraeth Cymru am barhau i fod yn “bartneriaid adeiladol” mewn trafodaethau gyda’r Deyrnas Unedig am gyflwyno newidiadau’r Mesur Brexit.

Ond mae’n mynnu hefyd na fyddai’n “dderbyniol o gwbwl” i bobol Cymru pe bai gan San Steffan yr hawl i gymryd grym oddi ar y Cynulliad er mwyn rheoli meysydd sydd eisoes wedi’u datganoli.

“Gadewch i mi ddweud yn glir, ni fydd ein Bil yn ymgais i rwystro nac atal Brexit,” meddai Carwyn Jones.

“Yr unig beth rydyn ni’n ceisio ei wneud yw amddiffyn y setliad datganoli presennol i Gymru, gan wneud yn siŵr bod sicrwydd cyfreithiol pan fydd y Deyrnas Unedig yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.”