Mae’r heddlu wedi cyhoeddi enwau pump a gafodd eu lladd yn dilyn ffrwydrad yng Nghaerlŷr nos Sul (Chwefror 26).

Bu farw Mary Rajoobeer, 46, ynghyd â’i dau fab, Shane, 18, a Sean, 17.

Roedd Leah Beth Reek, 18, sef cariad Shane Rajoobeer, yn eu plith hefyd, ynghyd â Viktorija Ljevelva, 22.

Y ôl yr heddlu, roedd teulu’r Rajoobeers yn byw mewn fflat uwchben yr archfarchnad a gafodd eu dinistrio yn dilyn y ffrwydrad, ac mae lle i gredu bod Mary Rajoobeer yn gweithio yn y siop.

Fe gafodd pum person arall eu cludo i’r ysbyty yn sgil y digwyddiad, ac mae un o’r rheiny yn parhau mewn cyflwr difrifol.

Mae’r gwasanaethau brys yn parhau i ymchwilio i achos y ffrwydrad.