O holl drefi a dinasoedd gwledydd Prydain, mae’n debyg bod Wrecsam ymhlith y rhai fydd yn cael eu taro gwaethaf wrth i’r byd gynhesu.
Yn ôl ymchwil gan Brifysgol Newcastle, gallai faint o ddŵr sy’n gorlifo yn ystod llifogydd yn Wrecsam gynyddu gan 80%.
Dinasoedd Cork a Derry yn Iwerddon fydd yn cael eu heffeithio fwyaf gyda chynnydd o 115% a 99% yr un, gyda Wrecsam yn gydradd trydydd â Waterford, Iwerddon.
Rhagolygon yw’r ffigyrau uchod o’r sefyllfa fwyaf eithafol allai wynebu’r trefi a dinasoedd rhwng blynyddoedd 2050 a 2100.
Llifogydd
Mae’r Cynghorydd R Alun Jenkins – sy’n Aelod o Bwyllgor Craffu’r Amgylchedd, Cyngor Wrecsam – wedi ymateb trwy ddweud bod y ffigyrau yn “peri ychydig o ofid”.
Ond mae’n amau a fydd cynhesu byd eang yn effeithio canol y dref, gan nodi bod y problemau sy’n effeithio’r ardal honno ar hyn o bryd yn gysylltiedig â pheipiau yn “clogio”.
Ac mae hefyd yn tynnu sylw at lifogydd tu allan i’r dref ei hun yn ardal, gan gyfeirio’n benodol at Fangor Is-coed, lle mae’r “broblem dan reolaeth,” meddai.
Er yr oedd llifogydd yno’n “reit aml” yn y gorffennol mae’n nodi bod amddiffynfeydd wedi eu cryfhau rhyw 20 mlynedd yn ôl gan “arbed y broblem”.
Problem i Gymru oll
“Mae’n flynyddoedd rŵan ers i lifogydd taro Bangor Is-coed,” meddai R Alun Jenkins wrth golwg360.
“A phan mae dŵr yn uchel yn afon Dyfrdwy mae [awdurdodau] yn cadw llygad craff arno, fel nad ydi problemau yn digwydd. Fel dw i’n deall, mae’r broblem yna dan reolaeth…
“Ond wrth edrych i’r dyfodol, os fydd lefelau dŵr yn codi – a chynhesu byd eang yn creu’r problemau rydyn ni’n credu y byddan nhw’n gwneud – mi fydd yna broblemau, nid jest i Wrecsam, ond i’r wlad i gyd.”