Fe fydd myfyriwr Brifysgol Aberystwyth yn dechrau ymprydio heddiw i alw am ddatganoli darlledu i Gymru.

Bwriad Elfed Wyn Jones yw byw am wythnos ar ddim ond dŵr, gan gynnal ei brotest yn benna’ yn swyddfa Cymdeithas yr Iaith yn y dref.

Ddoe, fe fu’n cyfarfod â Gweinidog Darlledu Llywodraeth Cymru, Dafydd Elis-Thomas, yn Nolgellau i drafod yr ymgyrch.

Yn ôl Elfed Wyn Jones, roedd y cyfarfod yn un “adeiladol” ac mae’n “obeithiol” y bydd rhagor o Aelodau Cynulliad yn cynnig cefnogaeth i’r ymgyrch.

“Cyfrifoldeb i weithredu”

“Rydw i’n gobeithio y bydd fy ngweithred yn dangos mor ddifrifol yw’r angen i gael rheolaeth yng Nghymru ar ddarlledu,” meddai Elfed Wyn Jones, mab fferm 20 o Drawsfynydd sy’n astudio yn Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol y Brifysgol.

  • Roedd datganoli pwerau tros gyllido darlledu’n un o argymhellion Comisiwn Silk yn 2013.
  • Ar hyn o bryd, mae mwy na 50 o bobol yn gwrthod talu am eu trwydded deledu fel rhan o’r ymgyrch.