Mae Prifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant wedi cyhoeddi mai yn Llanbedr Pont Steffan y bydd yr Eisteddfod Ryng-golegol yn cael ei chynnal eleni.

Fe fydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar gampws y brifysgol rhwng Mawrth 9 ac 11, gyda’r Eisteddfod ei hun yn cael ei chynnal ar ddydd Sadwrn, Mawrth 10.

Cystadlaethau chwaraeon – gan gynnwys rygbi, pêl droed a chystadleuaeth pêl-rwyd 7 bob ochr – fydd yn cael eu cynnal ar y diwrnod cyntaf.

A gyda’r hwyr ar nos Sadwrn, bydd gig yn cael ei chynnal gyda Y Cledrau, Fleur de Lys, Gwilym a DJ Garmon yn perfformio.

“Cyffro mawr”

“Mae’r penwythnos hwn yn cael ei ystyried fel un o’n prif ddigwyddiadau cymdeithasol a diwylliannol ac mae yna gyffro mawr yma yn ogystal â llawer o waith trefnu!” meddai Llywydd Cymdeithas Gymraeg y brifysgol, Ifan Thomas.

“Ar hyd y blynyddoedd mae’r Eisteddfod wedi sicrhau llwyfan i ddatblygu talentau cannoedd o fyfyrwyr ac mae’n siŵr na fydd eleni yn eithriad.”

Dyma’r tro cyntaf ers pum mlynedd i’r brifysgol gynnal y digwyddiad – cafodd ei gynnal yng Nghaerfyrddin yn 2013.