Mae trigolion ardal yng Ngheredigion yn bwriadu cynnal “sioe agored fawreddog” i ddynodi dau gan mlynedd ers i genhadon ifanc o’r sir hwylio i Fadagasgar i ledaenu Cristnogaeth.
Ar Chwefror 9, 1818, fe gychwynnodd David Jones a Thomas Bevan o Academi Neuadd-lwyd ger Aberaeron ar eu mordaith i Fadagasgar i genhadu ar ran enwad yr Annibynwyr.
Fe gyrhaeddodd y ddau, ynghyd â’u teuluoedd, yr ynys ddechrau mis Awst. Ond erbyn mis Chwefror y flwyddyn ganlynol, roedd afiechyd wedi lladd pob un heblaw am David Jones.
Bwriad y sioe ddathlu, sy’n cael ei drefnu gan aelodau Capeli’r Annibynwyr yn Nyffryn Aeron, yw ail-greu’r gwasanaeth ordeinio yng Nghapel Neuadd-lwyd a welodd y ddau ŵr, a oedd yn eu hugeiniau ar y pryd, yn cael eu sefydlu’n genhadon o flaen torf o 5,000 o bobol.
Mi fydd y “sioe agored” yn cael ei gynnal ddechrau mis Mehefin ar fferm Pen-rhiw, sef cartref David Jones, gyda’r gobaith o ddenu cannoedd o bobol i gymryd rhan, ynghyd â grŵp o frodorion Madagasgar.
“Dod â phobl yr ardal ynghyd”
“Mae cynllunio’r Sioe eisoes yn dod â phobl yr ardal ynghyd i drafod a dysgu mwy am hanes y cenhadon a aeth i Fadagasgar,” meddai Dafydd Tudur, un o’r trefnwyr.
“O’i chynnal mewn lleoliad mor arwyddocaol a thrawiadol, a bod Cymry a phobol o Fadagasgar yn cymryd rhan ynddi, rydyn ni’n sicr y bydd yn achlysur i’w gofio.
“Ein gobaith yw y daw llawer mwy i wybod yr hanes a’r rhai oedd eisoes yn ymwybodol ohono i’w weld mewn goleuni newydd, ac y bydd trwy hynny’n cryfhau’r cysylltiad rhwng y ddwy wlad heddiw ac ymhell i’r dyfodol.”
Dyma Dafydd Tudur yn esbonio rhagor am hanes y ddau genhadwr ifanc:
Mi fydd y sioe ar Fehefin 8 yn cyd-fynd â Chyfarfod Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr a fydd yn cael ei gynnal yn ystod yr un wythnos er mwyn dathlu’r dauganmlwyddiant.