Fe fydd cantores o Gymru ymhlith y rhai a fydd yn perfformio mewn cyngerdd arbennig i gofio am y diweddar ddiddanwr, Bruce Forsyth.
Shirley Bassey, sy’n wreiddiol o Gaerdydd, yw’r cyntaf i gadarnhau y bydd hi’n cymryd rhan mewn cyngerdd yn y London Palladium ddiwedd y mis er mwyn dathlu bywyd y dawnsiwr, canwr a’r diddanwr a fu farw fis Awst y llynedd yn 89 oed.
Mae’r gyngerdd yn cael ei threfnu gan y BBC, ac fe fydd yn cynnwys amrywiaeth o berfformiadau gan westeion enwog a oedd yn adnabod Bruce Forsyth.
“Wastad yn rhoi gwên”
“Fe gafodd Sir Bruce Forsyth ei eni’n ddiddanwr – yn ganwr, dawnsiwr ac actor talentog – a oedd wastad yn rhoi gwên ar wynebau pobol,” meddai Shirley Bassey.
“Fe fydd yn fraint cael canu un o’i hoff ganeuon er cof amdano.”
Bydd y gyngerdd yn cael ei chynnal ar Chwefror 21 – y diwrnod y byddai Bruce Forsyth wedi dathlu ei ben-blwydd yn 90 oed – ac fe fydd y sioe’n cael ei darlledu ar BBC One yn ddiweddarach eleni.