Mae Clwb Criced Morgannwg wedi cyfrannu at adroddiad ar newid hinsawdd sy’n dweud mai criced yw’r gamp sy’n dioddef waethaf yn ei sgil.
Yn ôl yr adroddiad Game Changer gan The Climate Coalition, mae’r sir wedi colli dros 1,300 o oriau o griced – sy’n gyfwerth â 217 diwrnod ac o leiaf 20,000 o belawdau – ers 2000, ac mae Pennaeth Gweithrediadau’r sir, Dan Cherry yn dweud bod y sefyllfa’n “hunllef”.
“Mae ein profiad ni’n dod yn arferol i bron bob clwb ac mae’n anodd hyd yn oed i siroedd dosbarth cyntaf fod yn ddichonadwy’n fasnachol yn sgil y fath effaith. Mae wedi bod yn waeth dros y blynyddoedd diwethaf – yn ystod tymor 2017, cafodd pump allan o’n saith gêm ugain pelawd ni eu heffeithio’n wael gan y glaw, gyda thair yn dod i ben yn llwyr.”
Dywedodd fod y glaw wedi costio’n ddrud i’r sir o safbwynt gemau ugain pelawd, gan amcangyfrif mai £1 miliwn yw’r gost. Mae criced, meddai, yn cyfrannu degau o filiynau o bunnoedd at economi Caerdydd.
Ac mae’n rhybuddio y gallai newid hinsawdd “newid y gêm yn sylfaenol” oni bai bod camau’n cael eu cymryd i leihau ei effeithiau.
“Mae’n syml: po leiaf o griced y byddwn ni’n ei chwarae ar bob lefel, lleia’n y byd o bobol fydd yn ei gwylio hi, lleia’n y byd y byddan nhw’n dod i’r cae i’w gwylio a thalu pris mynediad, a lleia’n y byd y bydd y cyfleoedd i bobol ifanc gael eu hysbrydoli i ddechrau chwarae’r gêm.”
Camau sydd wedi’u cymryd
Mae Clwb Criced Morgannwg eisoes wedi dechrau cymryd camau i leihau effeithiau newid hinsawdd – a’r camau hynny’n cynnwys gwneud newidiadau i’r ffordd y mae adrannau’r clwb yn defnyddio trydan a nwy, dŵr a systemau gwaredu gwastraff.
Ers 2013, mae’r clwb wedi llwyddo i leihau ei ddefnydd o drydan a nwy o 10-15%, a gwneud hynny hefyd drwy addasu eu dulliau o deithiau i gemau. Mae’r camau hynny wedi arwain at ostyngiad o 137 tunnell o garbon deuocsid yn ystod dwy flynedd y camau.
Costau Bwrdd Criced Cymru a Lloegr
Roedd gwaith cynnal a chadw a gafodd ei gwblhau gan glybiau criced yn 2016 wedi costio £1 miliwn i Fwrdd Criced Cymru a Lloegr, a hynny drwy grantiau argyfwng. Cynyddodd y ffigwr i £1.6 miliwn yn 2017.
Bellach, mae’n neilltuo £2.5 miliwn y flwyddyn ar gyfer grantiau i helpu clybiau ar lawr gwlad gyda’u costau bob dydd. Mae hynny’n cynnwys darganfod dulliau o atal llifogydd a materion eraill yn ymwneud â’r hinsawdd.
Llai yn chwarae
Ond mae pryderon o hyd fod yr hinsawdd yn debygol o droi pobol oddi wrth y gêm yn y pen draw. Yn ôl ffigurau swyddogol, roedd 40,000 yn llai o bobol yn chwarae criced yn 2015-16 nag yr oedd yn chwarae ddegawd ynghynt.
Ychwanegodd Dan Cherry: “Mae’r effaith yn dod yn fwy amlwg. Os yw llai o bobol yn chwarae’r gêm, fe fydd y gamp yn dioddef drwyddi draw.”