Mae disgwyl y bydd rheolwr newydd Cymru, Ryan Giggs, yn cyhoeddi cyn diwedd yr wythnos pwy fydd yn ei dîm hyfforddi.
Ac mae arwyddion “positif” y bydd un o gonglfeini llwyddiant y blynyddoedd diwetha’, Osian Roberts, yn un ohonyn nhw.
Wrth sylwebu ar y radio ar gêm bêl-droed ddydd Sadwrn, fe ddywedodd yr is-reolwr ei fod wedi cael trafodaethau gyda Ryan Giggs.
Er nad oedd yn fodlon datgelu beth oedd y penderfyniad, fe gadarnhaodd bod pethau’n ymddangos yn “bositif”.
‘Hanfodol’
Roedd Osian Roberts wedi cynnig am swydd y rheolwr ei hun ac roedd nifer o ffigurau adnabyddus, gan gynnwys cyn ymosodwr Cymru, John Hartson, wedi cefnogi ei gais.
Roedd nifer mwy fyth o sylwebyddion wedi dweud ei bod yn hanfodol i Osian Roberts aros yn rhan o’r tîm.
Mae ef a’r pennaeth cyfathrebu, Ian Gwyn Hughes, hefyd yn cael llawer o’r clod am roi lle amlwg i’r Gymraeg o fewn y Gymdeithas Bêl-droed.