Rhaglen i blant bach oedd â’r ffigyrau gwylio uchaf ar S4C ddiwedd y llynedd, gyda 83,000 o bobol yn gwylio’r bennod a ddarlledwyd am 4.45yp ddydd Iau, Rhagfyr 7.
Mae Patrol Pawennau, fersiwn Gymraeg gan Gwmni Da, Caernarfon, o Paws Patrol y BBC, yn dilyn anturiaethau cwn bach sy’n cydweithio i amddiffyn eu cymuned leol.
Ond mae 83,000 o wylwyr yn cyfateb i tuag un o bob pump o’r holl siaradwyr Cymraeg (500,000), ac mae’n syfrdanol ar gyfer rhaglen blant.
Yn ol adran ymchwil S4C, mae’r ffigurau yn gywir, ac ar gyfer “setiau teledu ledled y Deyrnas Unedig”. Mae hynny’n golygu y gallai plant di-Gymraeg fod wedi gwylio’r bennod, ac mae’r ffigyrau hefyd yn cynnwys gwylwyr ail-darllediadau a gwasanaeth BBC iPlayer ar deledu.
Dydyn nhw ddim yn cynnwys nifer y bobol a wyliodd y rhaglen drwy S4C Clic neu BBC iPlayer ar ddyfeisiau eraill, fel cyfrifiadur, tabled neu ffôn.
Rhaglenni yn y deg uchaf
Tair pennod o Patrôl Pawennau oedd yn y tair uchaf o’r rhestr, yn denu 83,000, 76,000 a 54,000 o wylwyr yn y drefn yna.
Pennod o Heno oedd yn bedwerydd ar y rhestr gyda 50,000 o wylwyr; a phedair pennod o’r opera sebon Pobol y Cwm yn y 5ed, y 6ed, 7fed a’r 8fed safle, â rhwng 49,000 a 40,000 o wylwyr.
Roedd pennod o Rownd a Rownd yn y nawfed safle gyda 38,000 o wylwyr; a Noson Lawen yn ddegfed gyda 37,000 o wylwyr.
Nifer cyfartalog gwylwyr y deg rhaglen uchaf oedd 52,000, a chyfartaledd yr ugain uchaf yn 41,000.